Cyn Ddigwyddiadau

Beth yw'r Confensiwn Cymru-Gyfan a beth yw pwysigrwydd y Confesiwn i weithwyr materion cyhoeddus yng Nghymru ac i gymdeithas sifil? - 25 Medi

Atebwyd y cwestiynau yma gan y Confensiwn Cymru Gyfan, Syr Emyr Jones Parry, wrth iddo siarad gyda aelodau PAC yn y Senedd ar Ddydd Iau 25 Medi. Ymunodd aelodau eraill o'r Confensiwn gyda Sir Emyr wrth iddynt ein arwain trwy gwiath y Confensiwn a'i amserlen. Trefnwyd y digwyddiad hon gyda chefnogaeth Mike German AC.


"Sorted": Loteriau Dinasyddion a dyfodol chyfranogaeth y cyhoedd - 23 Medi

Cynhaliodd Public Affairs Cymru digwyddiad gyda Bethan Jenkins AC i hynrwyddo gwaith Peter MacLeod, ymchwilydd blaenllaw ym maes cyfranogaeth sifigwrth iddo lawnsio ei bamffled o'r enw ""Sorted": Loteriau Dinasyddion a dyfodol chyfranogaeth y cyhoedd". Wedi ei tarddio ar Cynulliadau y Dinasyddion cyntaf Canada roedd ei safbwynt ar dynnu dinasyddion mewn i benderfyniadau cyfansoddiadol yn glir yn ei darlith, ac mae copiau ar gael yma.


Derbyniad yn yr Eisteddfod - 8fed Awst

Gyda'r Eisteddfod Cenedlaethol yng Nghaerdydd, gweithiodd PAC ar y cyd gyda Cyswllt (rhwydwaith cyfathrebwyr proffesiynol trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg) a Chymdeithas Frenhinol Teledu i gynnal derbyniad ar y Maes ym Mhabell S4/C. Y siaradwr gwadd oedd Guto Harri, cyn ohebydd gwleidyddol y BBC a chyn gweithredwr materion cyhoeddus gyda Fleishman-Hillard, a symudodd yn ddiweddar i weithio fel Ymgynghorydd Cyfathrebu i Faer newydd Llundain, Boris Johnson. Cynigodd Guto Harri weledigaeth mewnol o'r broses hel newyddion a chynnigodd ei barn ar y diwydiant materion cyhoeddus a chyfathrebu cyhoeddus, fel newyddiadyriwr a chyn chwaraewr yn y maes. Y prif ffocws wrth gwrs oedd ei apwyntiad fel aelod o dim Boris Johnson, a'i gred mewn pwysigrwydd cymeriad wrth cyfathrebu gwleidyddiaeth.

Yn y llun mai Tim Hartley, cadeirydd Cyswllt; Guto Harri; a Daran Hill, cadeirydd PAC.


Derbyniad PAC yn y Cynulliad Cenedlaethol - 8fed Gorffennaf

Daeth hanner Aelodau'r Cynulliad a dros 60 o aelodau PAC a'n cyfeillion gwadd at ein gilydd ar gyfer digwyddiad rhwydweithio blynyddol yn y Cynulliad. Roedd hwn yn adlweyrchiad arbennig o dda ar aelodaeth amrywiol PAC a llwyddiant ein grwp ar ol dim ond dau mlynedd o fodolaeth. Cydnabodd Daran Hill, Cadeirydd PAC, a Nick Bourne, noddwr y noson ac Arweinydd y Grwp Ceidwadol yn y Cynulliad, pwysigrwydd y mudiad yn ei areithiau; ac annogwyd aelodau PAC i feddwl am sefyll ar gyfer y Pwyllgor Gwaith blwyddyn nesaf.


Ymweliad PAC i Gogledd Iwerddon – 24 a 25 Mehefin

Gwariodd 6 aelod PAC amser gwerthfawr yng Ngogledd Iwerddon yng nghwmni ein cydweithwyr o Belfast sy'n aelodau o'r Grwp Materion Cyhoeddus Gogledd Iwerddon (NIGAG) (www.nigag.org) Trefnodd NIGAG rhaglen o ddigwyddiadau anhygoel i ni - gan ddechrau gyda chinio ffurfiol a thrafodaeth gyda Gerry Moriarty, newyddiaduriwr oedd wedi bod yn dilyn y "Troubles" a'r elfennau gwleidyddol yn y Gogledd dros y tri degawd diwethaf. Siaradodd yn deallus a gyda theimlad am ei brofiadau. Y bore wedyn, cafwyd diwrnod diddorol yn Stormont, guda siawns i aelodau PAC cwrdd a gwleidyddion o rhan fwyaf o'r prif bleidiau a sawl aelod o wasanaeth sifil y Cynulliad i drafod pynciau gan gynnwys pwerau deddfwriaethol Stormont, polisiau's pleidiau ar cynrychiolaeth benywaidd, a materion ynglyn a chlymbleidio.

Hwn oedd trip cyntaf PAC tu allan i ynys Prydain ac roedd yr ymateb yn yn dda. Rydym nawr yn edrych ymlaen at gynnig croeso tebyg i'n ffrindiau o Ogledd Iwerddon pan maent yn dod draw i Gymru, ac hefyd trefnu trip tebyg i'r Alban!


Taith o gwmpas y Senedd a Chyflwyniad gan Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru Huw Irranca-Davies AS

Ymwelodd 25 o aelodau Materion Cyhoeddus Cymru (PAC) gyda'r phalas San Steffan ar gyfer ein digwyddiad cyntaf tu allan i Gymru. Fe wnaeth Is-Ysgrifennydd Seneddol Cymru Huw Irranca-Davies gadeirio sesiwn wybodaeth ar gyfer aelodau PAC yn Ystafell Bwyllgora 21 Ty'r Cyffredin ynglyn a gwaith Swyddfa Cymru, a sut mae'r Swyddfa, y Pwyllgor Materion Cymreig, ASau Cymreig, Ty'r Cyffredin a Thy'r Arglwyddi yn craffu ar deddfwriaeth sy'n deillio o'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mynychodd Paul Jones, pennaeth Adran Proses Ddeddfwriaethol Swyddfa Cymru y cyfarfod gyda'r Gweinidog a chadeiriwyd y cyfarfod gan Darren Hughes, dirprwy gadeirydd PAC. Derbyniom gyflwyniad tua hanner awr o hyd ynglyn a gwaith Swyddfa Cymru a rhaglen ddeddfwriaethol drafft Llywodraeth San Steffan. Yn ogystal a egluro'r broses o ddelio gyda Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol fe gyfeiriodd y Gweinidog hefyd at y broses ble mae Llywodraeth y DU yn gallu datganoli pwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol trwy “bwerau fframwaith” o fewn Deddfau Seneddol, a sut gall y “materion” hyn gael eu cynnwys yn atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru – proses oedd ddim yn eglur neu ddim yn gyfarwydd i nifer o aelodau PAC.

Dywedodd y Gweinidog nad yw'n ystyried mai atal Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yw rôl Swyddfa Cymru na'r Gweinidog Gwladol ond yn hytrach i sicrhau nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn mynd tu hwnt i'w gymhwysedd deddfwriaethol. Cafwyd sesiwn cwestiwn ac ateb bywiog wedi'r cyflwyniadau gyda nifer o gwestiynau nad oedd y Gweinidog na Paul Jones wedi eu rhagweld na'u disgwyl mae'n debyg. Roedd nifer o'r cwestiynau yn ymwneud a sut gallai'r sefydliadau oedd yn bresennol ddylanwadu ar daith deddfwriaeth o ddiddordeb wedi iddynt adael Caerdydd a dechrau ar y daith trwy'r Senedd.

Wrth ymateb i'r digwyddiad dywedodd Darren Hughes: “Roedd hon yn garreg filltir nodedig yn natblygiad PAC fel sefydliad gyda'n cyfarfod cyntaf erioed tu allan i Gymru a'n cyfarfod cyntaf yn San Steffan. Fe roddodd Huw Irranca-Davies ddisgrifiad difyr tu hwnt i ni o waith Swyddfa Cymru a'r broses ddeddfwriaethol sy'n wynebu deddfwriaeth o Gymru ar ei daith trwy San Steffan. Fe sbardunodd y sesiwn gwestiynau ac ateb drafodaeth fywiog a aeth ymlaen i edrych ar y berthynas rhwng Senedd San Steffan a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae nifer ohonom wedi clywed safbwynt Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad ar y mater ac felly roedd hi'n ddefnyddiol iawn i glywed safbwynt San Steffan. Fe wnaeth pawb fynychodd fwynhau'r digwyddiad a gadael yn gwybod llawer mwy am brosesau Swyddfa Cymru a San Steffan”

“Dymunaf hefyd ddiolch i'r Farwnes Llin Golding, Pete o swyddfa Lembit Opik, James Bevan o swyddfa Chris Bryant a James o swyddfa Roger Williams am fynd a grwpiau am daith fer o gwmpas Palas San Steffan cyn y digwyddiad.”


Faterion Gofalwyr

Ar Fai'r 15fed rhoddwyd cyflwyniad i aelodau PAC gan Helen Mary Jones AC a Maggie Titterton o Gofalwyr Cymru ar yr LCO Gofalwyr mae Helen Mary yn gweithio arni. Cafodd y gynulleidfa cipolwg o'r tu mewn o'r broses LCO ganddi, ac roedd trafodaeth bywiog i ddilyn ar pam mae angen yr LCO ac hefyd ar faterion ehangach yn ymwneud a gofalwyr. Mae cyflwyniad Maggie ar gael yma.


Adolygiad o Ddarlledu Teledu Gwasanaethau Cyhoeddus

 

Ar ddydd Mawrth 22 Ebrill, fe gynhaliodd PAC a Cyswllt, y gymdeithas ar gyfer y siaradwyr Cymraeg yn y diwydiant cyfathrebu yng Nghymru, ddigwyddiad ar y cyd yn swyddfeydd Ofcom Cymru. Daeth bron i 30 o bobl ynghyd i glywed am ail adolygiad Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom Cymru, oedd wrth y llyw yn rhannu ei brofiadau ef o ddarlledu yng Nghymru ac effaith technolegau modern, gan gynnwys teledu digidol a darlledu ar y we, ar y model draddodiadol o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus. Cawsom gyflwyniad o fodelau darlledu gwasanaeth cyhoeddus newydd posibl sydd â’r potensial i ddiogelu’r sector ddarlledu yng Nghymru gan ofalu bod cyfran o’r comisiynau rhaglenni DU yn cael ei cynhyrchu yng Ngymru. Hefyd, trafodwyd yr angen i raglenni, sy’n cael eu darlledu yng Nghymru a led led y DU, i gynrychioli Cymru, ei phobl, ei diwylliant a’i gwleidyddiaeth, yn well.

Mwynhaodd aelodau PAC a Cyswllt drafodaeth fywiog dros fwyd a gwin.

Yn y llun mai Hywel Wiliam, Ofcom, Tim Hartley, cadeirydd Cyswllt, Daran Hill, cadeirydd PAC, a Rhodri Williams Ofcom.


Tlodi Plant

Ar y 18fed o Fawrth, cyhyrfwyd aelodau PAC i ddadlau'n agored a deallus ar y testun o dlodi plant. Cafwyd cyflwyniad gan Anne Crowley, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi ac Ymgyrchoedd Rhaglen Plant yng Nghhymru yn ysgogi i feddwl ar dlodi plant, gan rhoi ffigyrau a ffeithiau yn hysbysu'r ddadl gyhoeddus a pholisi ar ddileu tlodi plant gan hefyd herio mythau ynghylch tlodi plant as sut mae hyn yn effeithio ar ganfyddiad y cyhoedd. Dangosodd y digwyddiad hwn yn sicr y ddiddordeb agos sydd gan y diwydiant materion cyhoeddus ar y testun o dlodi plant gan rhoi llwyfan ar gyfer dadl i'r dyfodol ar rôl cymdeithas sifig yn y frwydr i ddileu tlodi plant. Mae copi o sleidiau Anne Crowley ar gael yma.


Safbwyntiau ar Gyflawni LCOs

Ar Chwefror 27th daeth aelodau PAC at ei gilydd i gael drafodaeth diddorol ar LCOs. Rhanodd Lee Waters, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru, ei brofiad o ymgyrch am LCO i roi dyletswydd ar WAG i ddatblygu a chynnal rhwydwaith o lwybrau aml-ddefnydd a heb draffig ar gyfer cerddwyr, beicwyr a phobl anabl ar draws Cymru. Clywsom sut mae syniad yn cael ei drawsnewid i fod yn ddeddfwriaeth Gymreig - o’r dechrau cyntaf pan daeth croesdoriad o fudiadau at ei gilydd i gefnogi’r ymgyrch, i gyflwyno’r ddeiseb i Bwyllgor y Cynulliad.

O'r ochr deddfwriaeth, bydd Jonathan Morgan AM yn son am ei brofiad ar LCO ar Iechyd Meddwl sydd newydd cael ei osod yn y Cynulliad, a'r profiad o fod, hyd yn hyn, yr unig Aelod Cynulliad i Gadeirio Pwyllgor sgriwtineiddio ar Fesur Cynulliad Ddrafft. Cynnigodd golwg i mewn ar cryfderau a gwendidau y system newydd, ond hefyd gobaith ei fod yn medru gweithio'n effeithiol gyda chynllunio o flaen llaw.


Ymweliad a'r BBC

Ar 7 Chwefror afodd dwsin o aelodau amlycaf Public Affairs Cymru cipolwg tu ol y llen at sut mae BBC Cymru yn casglu a delio gyda newyddion ar gyfer rhaglenni gan Bennaeth Casglu Newyddion BBC Cymru, Ruth Sully. Dechruodd yr ymweliad yn y desgiau newyddion ble rhoddwyd esboniad o sut mae newyddion yn cael ei gasglu a dosbarthu.


Darlith Blynyddol Public Affairs Cymru

Yr Athro Richard Wyn Jones: Datganoli: Y Cam Nesa. A'r un nesa i ddod...

Ar 30 Ionawr 2008, rhoddodd yr academydd a sylwebydd gwleidyddol Yr Athro Richard Wyn Jones adarlith i aelodau PAC members ac eraill ar rol cymdeithas sifig a syniadau'r cyhoedd am ddatganoli wrth i ni symud at gamau nesaf datganoli. Roedd casgliad ardderchog o aelodau PAC, Aelodau Cynulliad a staff wedi ychwanegi at y noson gyda'u cwestiynnu bywiog.

Mi fydd sleidiau a nodiadau o'r noson ar gael ar y wefan fan hyn: Darlith, Sleidiau.


Carolau yn Cwtch

Ar Ddydd Mercher 19 Rhagfyr daeth aelodau PAC at ei gilydd i ganu gyda phwrpas wrth i ni godi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Chyngerdd Carolau Dolig. Codwyd bron £100 ac roedd pawb mewn llais da.


Cino Gala PAC

Ar Ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2007 yn adeilad Pierhead ym mae Caerdydd, daeth dros cant o bobl ymlycaf materion cyhoeddus Cymru, Aelodau Cynullliad a gwahoddedigion at ei gilydd i ddathlu diwedd blwyddyn cyntaf Public Affairs Cymru ac i edrych ymlaen i'r dyfodol.

Croesawyd y dorf gan Daran Hill, Cadeirydd Public Affairs Cymru; a Gwr gwadd y cinio oedd Carwyn Jones AM, Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty. Mewn araith cofiadwy pwysleisiodd rol syniadau mae gwiethwyr materion cyhoeddus mewn asiantaethau ac mewnol yn dod i'r broses creu polisi.

I weld lluniau y digwyddiad ymwelwch Lluniau'r Cinio.


Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Dydd Iau 11eg o Hydref 2007, 6.00pm, Ystafell uwch ben bwyty Infusion, Stryd Bute, Caerdydd

Daeth aelodau PAC at ei gilydd i ethol Pwyllgor Newydd, edrych eto ar y Cyfansoddiad, a meddwl nos dros y blwyddyn llwyddiannus gyntaf. Pleidleisiodd yr Aelodau i fabwysiadu'r Cyfansoddiad newydd; codi'r tal aelodaeth i £35; a dechrau system newydd o ymaelodaeth ble mae aelodau neu mudiadau yn ymuno am flwyddyn o'r diwrnod ymaelodi. Y siaradwr gwadd oedd Dr Non Gwilym, Pennaeth Cyfathrebu Allanol yng Nghomisiwn y Cynulliad, a rhoddodd hi disgrifiad diddorol o waith y Comisiwn.


Cyfarfod Agored Y Pwyllgor Gwaith

Dydd Llun 17 Medi 2007, 6.00pm, Waterguard ym Mae Caerdydd

Roedd hyn yn siawns i aelodau PAC eistedd mewn ar gyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith a chynnig syniadau a sylwadau ar y dyfodol.


Ymweliad a'r BBC

Dydd Iau 9fed Awst 2007, 5.30pm, BBC Cymru yn Llandaf

Cafodd aelodau Public Affairs Cymru cipolwg tu ol y llen at sut mae BBC Cymru yn casglu a delio gyda newyddion ar gyfer rhaglenni gan Bennaeth Casglu Newyddion BBC Cymru, Ruth Sully. Dechreuodd yr ymweliad yn y desgiau newyddion ble esboniwyd sut mae newyddion yn cael ei gasglu a dosbarthu. Esboniodd Ruth bod newyddion yn disgyn i ddau categori: newyddion sydd yn mynd i ddigwydd yn bendant, fel lawnsio ymgyrchoedd neu cyhoeddiadau gan y llywodraeth, neu etholiadau cenedlaethol neu lleo; a newyddion sy'n digwydd codi fel trosedd neu damweiniau mawr.

Cafodd aelodau PAC eu harwain trwy'r broses casglu newyddion ar ol i ddatganiad wasg cyrraedd y BBC, a sut mae penderfyniadau yn cael ei wneud i dynnu sylw at stori. Mae BBC Cymru yn derbyn hyd at 300 datganiad wsg y diwrnod ac ond canran bach ohonynt sy'n cael unrhyw sylw mawr. Rhoddwyd sylw i'r fath cangymeriadau sy'n digwydd ac hefyd tips ar wneud y cynnwys yn mwy diddorol.

Rhoddwyd siawns hefyd i aelodau ymweld a'r galeri i weld beth sy'n digwydd tu ol y llenni wrth cynhyrchu a darlledu sioe newyddion mwya BBC Cymru, "Wales Today."

Meddai Darren Hughes, trefnydd y digwyddiad ar ran PAC: "Roedd ymweld a stiwdio'r BBC yn brofiad braf ac o ddiddordeb. Mi fydd rhan helaeth o aelodau PAC wedi anfon mas datganiadau a cheisio ennill sylw at ddigwyddiadau, ac roedd e'n profiad gwerthfawr iawn i weld pethau o'r ochr arall. Faint o'n aelodau, er enghraifft, sydd wedi cynorthwyo lawnsiad neu ymgyrch ac wedyn anfon allan datganiad i'r wasg ond iddi cael ei anwybyddu, gan achosi siom? Esboniodd Pennaeth Casglu Newyddion BBC Cymru, Ruth Sully, yn glir iawn sut mae'r BBC yn derbyn gwybodaeth aneglur neu heb ei gwblhau, neu ble roedd yr awdur yn amlwg yn credu bod mwy o wybodaeth pwnc gan y newyddiaduriwr. Cytunodd pob aelod PAC oedd wedi mynychu eu bod wedi dysgu llawer ac roedd y noson wedi cyflawni lot at gwneud eu swyddi'n mwy effeithiol yn y dyfodol."


Cyfarfod Aelodau'r Trydydd Cynulliad

Dydd Mawrth; 10fed Gorffennaf 2007, 5.30pm, Oriel, Senedd

Daeth dros 30 o aelodau PAC i'r digwyddiad yma yn y Cynulliad Cenedlaethol i drafod newidiadau ym materion cyhoeddus yng Nghymru. Roedd bron hanner Aelodau'r Cynulliad yn bresennol ac roedd yn cyfle cryf i aelodau PAC siarad a'r Aelodau, gan gynnwys sawl un o'r rai newydd. Roedd y cyfarfod wedi trefnu heb gost i aelodau a darparwyd bwyd a diod gan PAC er mwyn hyrwyddo'r digwyddiad. Codwyd proffeil PAC a chydnabyddiaeth ei gwaith ym mysg Aelodau'r Cynulliad.


Beth yw dyfodol S4/C2?

Dydd Mercher 4ydd Gorffennaf, 5.30pm, Waterguard, Bae Caerdydd 

Cynhaliodd PAC cyfarfod ar un o bynciau llosg darlledu Cymru. Mae S4/C ar hyn o bryd yn ymghynghori ynglyn ac ehangu darlledu i blant phobl ifanc ar ei sianeli digidol. Mae rhai o'r opsiynau dan sylw yn cynnwys is-raddio faint o ddarpriaeth gwleidyddol sydd ar S4/C2. Y siaradwyr oedd John Walter Jones, Cadeirydd S4/C; Carys Howell, Aelod o'r Bwrdd; a Tim Hartley, Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol. Roedd aelodau'n falch i'w croesawu ac yn ddiolchgar am y cyfle i drafod yn agored fel medrai S4/C barhau i chwarae rol yn darlledu trafod o'r Cynulliad Cenedlaethol yn y dyfodol.


Un Wythnos Ymlaen: Etholiadau'r Cynulliad 2007

Dydd Iau 10 Mai 2007, 5.30pm, Las Iguanas yn Mill Lane, Caerdydd

Cafodd Materion Cyhoeddus Cymru (PAC) gyfle i glywed dehongliad un o brif ddarlledwyr Cymru, Vaughan Roderick (BBC Cymru) o ganlyniadau Etholiad Cynulliad 2007. Rhoddodd Vaughan ddadansoddiad gwybodus a dadlennol o'r ymgyrch etholiad, y canlyniadau a sut gallai'r canlyniad fod wedi bod yn wahanol iawn petai ychydig bleidleisiau wedi cael eu bwrw yn wahanol. Mynychodd 40 o aelodau PAC a'u gwesteion yr achlysur ac fe wnaeth nifer o aelodau newydd ymuno yn ystod y noswaith.

Dywedodd Darren Hughes oedd yn cadeirio'r digwyddiad ar ran Pwyllgor Gwaith PAC: "Fe ddaeth nifer ardderchog draw i Las Iguanas i glywed dehongliad newyddiadurwr gwleidyddol mwyaf profiadol Cymru, Vaughan Roderick, o ymgyrchoedd y pleidiau, ymateb yr etholwyr a'r effaith ar aelodaeth y Cynulliad. Roedd Vaughan wedi dadansoddi patrymau pleidleisio yn fanwl, ac fe eglurodd i ni ei bod hi'n ymddangos bod nifer o bobl wedi pleidleisio yn dactegol i bleidiau gwahanol gyda'u pleidlais etholaeth a rhanbarthol am y tro cyntaf. Mae Vaughan yn sylwebydd uchel ei barch ac yn hen law ar ddadansoddi etholiadau. Credaf ei bod yn dysteb dda iawn i PAC a'n haelodau ein bod ni yn gallu atynnu siaradwyr o safon mor uchel ac yn gallu denu cymaint o bobl i'n cyfarfodydd - maent nid yn unig yn achlysuron addysgiadol a hwyliog, ond hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio."


Cinio Cynhadledd Plaid Cymru PAC

Dydd Gwener 23ain Mawrth 2007, 8.00pm, The Black Boy, Caernarfon

Cinio cynhadledd ola'r tymor gyda chipolwg no^l i'r llwyddiannau hyd yn hyn a chip ymlaen at yr ymgyrch etholiadol o'n blaenau .


Cinio Cynhadledd Democratiaid Rhyddfrydol PAC

Dydd Gwener 9fed o Fawrth 2007, 7.30pm, Renaissance, Abertawe

Ail ginio cynhadledd PAC.  Fe gyfarfu criw bychan yn Abertawe dros bryd bwyd blasus a thrafodaeth ddofn .


Cinio Cynhadledd Llafur PAC

Dydd Gwener 23ain o Chwefror 2007, 7.30pm, Ty Osborne, Llandudno

Daeth nifer o swyddogion materion cyheoddus Cymru ynghyd yn Llandudno ar gyfer Cynhadledd olaf y Blaid Lafur cyn etholiad y Cynulliad. Roedd hi'n achlysur perffaith ar nos Wener tawel i ymuno gyda'n gilydd ar gyfer pryd swmpus o fwyd yn yr Osborne House Hotel .


Araith gan Lywydd y Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AS

Dydd Iau 18fed o Ionawr 2007, 5.30pm, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bwrodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AS ei farn ar newidadau yn ro^l Cynulliad Cenedlaethol Cymru , a'r modd y gall y sefydliad gydweithio gyda’r byd materion cyhoeddus yn y dyfodol .


Aduniad Naolig

Dydd Llun 18fed o Ragfyr 2006, 5.30pm, SALT, Cei’r Forforwyn , Bae Caerdydd 

Digwyddiad cymdeithasol cyntaf mawr PAC ers mabwysiadu'r cyfansoddiad.  Roedd yn noson rwydweithio defnyddiol a phleserus.


Bwrdd yng Nghinio "Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn"

Dydd Iau 30ain o Dachwedd 2006, 7,00pm, Y Gyfnewidfa Lo , Bae Caerdydd

Cymrodd PAC fwrdd – yr un cyntaf erioed – ar achlysur cymdeithasol ail seremoni wobrwyo Gwleidydd Cymreig y Flwyddyn . Ennillwyd gwobrwyon gan brif wleidyddion Cymru .


Cyfarfod Agoriadol Public Affairs Cymru

Dydd Gwener 27ain o Hydref 2006, 5.30pm, "Kemi's Cafe", Bae Caerdydd

Daeth tua 30 bobl sy’n ymdrin a^ materion cyhoeddus yng Cymru at eu gilydd i gytuno'r cyfansoddiad ac i ethol y Pwyllgor Gwaith cyntaf .