Newyddion
Dyma'r newyddion a phenderfyniadau diweddara gan
NEWYDDION CYNULLIAD GAN PUBLIC AFFAIRS CYMRU
Nodwch y cylchlythyr yma gan PAC:
Annwyl Aelod Cynulliad
Cylchlythyr gan Public Affairs Cymru
Rhifyn Gaeaf
* 100fed Aelod *
Rydym wedi cael cyfnod prysur dros y Nadolig a'r Blwyddyn Newydd gyda PAC yn ehangu i dros 100 o aelodau. Ers ein sefydliad yn Hydref 2006 mae'r grwp wedi cryfhau a rhoi'r cyfle i'w haelodau rhwydeweithio a rhannu profiad gorau yn ein digwyddiadau rheolaidd. Yn croesawi'r llwyddiant, medd Cadeirydd Public Affairs Cymru Daran Hill. "Mae hwn yn llwyddiant mawr ar ol dim ond blwyddyn a hanner o fodolaeth. Rydym yn cynnig mwy a mwy o chyfleoedd i'r rheini sy'n gweithio yn sector materion cyhoeddus ac rwy'n edrych ymlaen at gyrraedd yr uchafbwynt nesa".
* Cinio Gala PAC, Carolau Dolig, Darlith Blynyddol, Ymweliad a'r Ystafell Newyddion*
Etholwyd y Gweithgor newydd yn CCB ym mis Hydref, ac ers hynny rydym wedi cael sawl llwyddiant. Ar Ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2007 yn adeilad Pierhead ym mae Caerdydd, daeth dros cant o bobl ymlycaf materion cyhoeddus Cymru, Aelodau Cynullliad a gwahoddedigion at ei gilydd i ddathlu diwedd blwyddyn cyntaf Public Affairs Cymru ac i edrych ymlaen i'r dyfodol; gyda Gwr gwadd y cinio oedd Carwyn Jones AM, Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty.
Ar Ddydd Mercher 19 Rhagfyr daeth aelodau PAC at ei gilydd i ganu gyda phwrpas wrth i ni godi arian ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol gyda Chyngerdd Carolau Dolig. Codwyd bron £100 ac roedd pawb mewn llais da. Ar 30 Ionawr 2008, rhoddodd yr academydd a sylwebydd gwleidyddol Yr Athro Richard Wyn Jones adarlith i aelodau PAC members ac eraill ar rol cymdeithas sifig a syniadau'r cyhoedd am ddatganoli wrth i ni symud at gamau nesaf datganoli. Roedd casgliad ardderchog o aelodau PAC, 11 Aelod Cynulliad, ac aelodau staff wedi ychwanegi at y noson gyda'u cwestiynnu bywiog.
Ar 7 Chwefror afodd dwsin o aelodau amlycaf Public Affairs Cymru cipolwg tu ol y llen at sut mae BBC Cymru yn casglu a delio gyda newyddion ar gyfer rhaglenni gan Bennaeth Casglu Newyddion BBC Cymru, Ruth Sully. Dechruodd yr ymweliad yn y desgiau newyddion ble rhoddwyd esboniad o sut mae newyddion yn cael ei gasglu a dosbarthu.
* Digwyddiadau i ddod *
Mae ein calendr digwyddiadau dros y 6 mis nesa'n un cryf iawn gan gynnig sawl ddigwyddiad cymdeithasol, addysgiadol a rhwydweithiol. Mi fydd y rhaglen yn cynnwys mynd i giniawa yn y cynhadleddau gwleidyddol; digwyddiad yn San Steffan; seminar ar LCOs, trafodaethau agored a digwyddiad ar y cyd gyda Cyswllt.
* Cofiwch amdanom*
Os gennych unrhyw sylwadau neu syniadau i rannu am PAC, cofiwch gysylltu. Adnewyddir ein wefan yn gyson.
PUBLIC AFFAIRS CYMRU YN TYNNU 100 O AELODAU
Mae Public Affairs Cymru (11 January 2008) heddiw yn dathlu pwynt pwysig uyn ein hanes wrth i ni groesawi ein 100fed aelod. Emyr Williams o'r Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol yw'r 100fed berson i ymuno gyda'r gwp. Ers ein sefydliad yn Hydref 2006 mae'r grwp wedi cryfhau a rhoi'r cyfle i'w haelodau rhwydeweithio a rhannu profiad gorau yn ein digwyddiadau rheolaidd.
Yn croesawi'r llwyddiant, medd Cadeirydd Public Affairs Cymru Daran Hill. "Mae hwn yn llwyddiant mawr ar ol dim ond blwyddyn a hanner o fodolaeth. Rydym yn cynnig mwy a mwy o chyfleoedd i'r rheini sy'n gweithio yn sector materion cyhoeddus ac rwy'n edrych ymlaen at gyrraedd yr uchafbwynt nesa".
Wrth cadarnhau'r llwyddiant, meddai Ysgifennydd Aelodaeth PAC Kate Lewis: "Rwy'n falch iawn i groesawi'r 100fed aelod i Public Affairs Cymru. Mae ein llwyddiant yn destament i'r nifer o weithwyr brofesiynol materion cyheoddus sydd yn gwiethio yng Nghymru a chryfder ein profesiwn."
"Rydym yn ceisio ymestyn allan i gyrraedd mwy o aelodau ac yn hapus iawn i glywed wrth unrhye un sydd a diddordeb a hoffai bod yn rhan o Public Affairs Cymru. Mae'r blwyddyn nesa yn cyfle i adeiladu ar ein llwyddiant ac rwy'n siwr byddwn yn tyfu yn ol ein aelodaeth a'r cyfleoedd medrwn cynnig ein haelodau," meddai Kate.
Mi fydd PAC yn barhau i gynnig cyfleoedd ein haelodau yn y misoedd i ddod
gyda'r nod o drefnu oleua un digwyddiad y mis. Ar y gorwel yw Araith Blynyddol
PAC Annual Lecture gyda siaradwr gwadd, ymweliad i Stafell Newyddion y BBC
a digwyddiadau yn y Cynulliad Cenedlaethol a'r Eisteddfod Genedlaethol.
PUBLIC AFFAIRS CYMRU YN CYNNAL CINIO GALA CYNTAF
Ar Ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2007 yn adeilad Pierhead ym mae Caerdydd, daeth dros cant o bobl ymlycaf materion cyhoeddus Cymru, Aelodau Cynulliad a gwahoddedigion at ei gilydd i ddathlu diwedd blwyddyn cyntaf Public Affairs Cymru ac i edrych ymlaen i'r dyfodol.
Croesawyd y dorf gan Daran Hill, Cadeirydd Public Affairs Cymru, ac meddai: "Rydym wedi dod ymhell mewn blwyddyn. Digwyddiad mwya PAC oedd y cinio hon PAC ac roedd yn llwyddiant mawr. Mae'r ffordd mae'r diwydiant wedi tynnu at ei gilydd yn PAC yn bwysig iawn i'r diwydiant yma yng Nghymru."
Gwr gwadd y cinio oedd Carwyn Jones AM, Cwnsler Cyffredinol ac Arweinydd y Ty. Mewn araith cofiadwy pwysleisiodd rol syniadau mae gwiethwyr materion cyhoeddus mewn asiantaethau ac mewnol yn dod i'r broses creu polisi.
Hwn oedd y diwyddiad cyntaf o'r fath i PAC a'r Pierhead, un o brif adeiladau eiconig y ddinas. Wedi adeiladau yn 1897, mae'n Adeilad Rhestredig Lefel 1 ac yn lleoliad wych i noson cofiadwy.
AIL CYFARFOD BLYNYDDOL CYFFREDINOL PUBLIC AFFAIRS CYMRU
Ar Hydref 11 2007, cynhaliawyd ail Cyfarfod Cyffredinol
Blynyddol Public Affairs Cymru. Roedd Russell Lawson yn y Gadair am y tro olaf, a chroesawodd tua 30 members i’r CCB. Cadarnhawyd y Pwyllgor Gwaith 2007-08 yn eu swyddi.
Y prif benderfyniadau gwnaethpwyd gan y Pwyllgor oedd:
- Cytuno’r
Datganiad Ariannol am 2006-07 a chefnogi’r Adroddiad Blynyddol gan y
Pwyllgor Gwaith;
- Cytuno’r
Cyfansoddiad newydd a chafodd ei cymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith (mae hwn
yn barod ar y wefan);
- Derbyn
codiad yn y tal ymaelodi o £25 i £35 y flwyddyn;
- Cytuno
newid termau ymaelodaeth i sicrhau bod aelodaeth nawr yn parhau am
flwyddyn o’r dyddiad ymaelodi;
- Cytuno
ail ddiffinio y disgrifiadau swydd aelodau’r pwyllgor.
Ar ol y busnes ffurfiol cafwyd araith gan Dr Non Gwilym, Pennaeth
Cyfathrebu Allanol Comisiwn y Cynulliad, ac roedd hyn yn feddylgar iawn ac yn
goleuo perthynas gwiethiol effeithiol sydd wedi datblygu rhwng Public Affairs
Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol.
Meddai Daran Hill, Cadeirydd newydd PAC 2007-08: "Rwy’n
hynod o ddiolchgar i aelodau PAC am fy newis i symud y
mudiad ymlaen. Rydym wedi cyflawni llawer y nein blwyddyn cyntaf, ond mae sawl sialens i’w goroesi o hyd ynglyn a delwedd y
diwydiant a diffyg dealltwriaeth o’r diwydiant materion cyhoeddus. Mi fydd PAC yn
parhau i chwarae rol blaenllaw ar ran materion cyhoeddus dros y blwyddyn nesa..
"Mae lobio gwleidyddion a chyrff
cyhoeddus yn gwithgaredd pwysif. Mae’n bodoli ym mhob
cymdeithas rhydd a ddemocrataidd, ac yn hawl democrataidd sylfaenol. Mae lobiwyr yn gweithio fel pont rhwng crewyr polisi a chymdeithas
sifil ehangach. Mae’n sicrhau bod gwleidyddion a
gwasanaethwyr sifil yn ymwybodol o ahengion a diddordebau grwpiau penodol o
bobl neu mudiadau.”
Is-Gadeirydd PAC am yr ail
flwyddyn yw Darren Hughes, Sywddog Materion Cymreig y Cyngor Meddygol
Cyffredinol. Meddia: "Erse in CCB cyntaf 12 mis yn ol rydym wedi adeiladu
aelodaeth o dros 80 o bobl, rhoi’r mudiad ar sylfaen ariannol gref, a chreu
llawr cadarn i’w hadeiladu arni yn yr ail flwyddyn.
"Ein nod yw gwella’r delwedd a chryfhau’r
dealltwriaeth o faterion cyhoeddus yng Ngyhymru. Rydym yn
rhannu profiad o gwaith da, a chynnig fforwm ar gyfer cyfnewid syniadau.
Mae hi wedi body n blwyddyn gyntaf cyffroes, ac rwy’n sicr bydd sgop ein
gweithgareddau’n ehangu wrth i ni gydwiethio gyda’r
Cynulliad a phwerau newydd a rol ehangach.”
Mi fydd cofnod llawn o’r cyfarfod ar gael yma yn fuan.
PWYLLGOR GWAITH NEWYDD 2007-08 WEDI EU ETHOL
Clowyd enwebiadau ar Hydref 4ydd ar
gyfer Pwyllgor Gwaith Public Affairs Cymru. Mae pedwar
aelod o’r hen Pwyllgor wedi aros ymlaen, a phump aelod newydd wedi ymuno, gan
cynrychioli carfan eang o’r diwyidant yng Nghymru.
Yr aelodau sy’n parhau yw: Daran Hill (Positif Politics), a fydd yn Gadeirydd
newydd Public Affairs Cymru; Darren Hughes
(Cyngor Meddygol Cyffredinol), yn parhau fel is-Gadeirydd; Philippa Ford (Cymdeithas Siartredig
Ffisiotherapi), yn parhau fel Trysorydd; a Kate
Lewis (Morgan Allen Moore). Yr aelodau newydd eu hethol yw Sara Jones (Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru);
Llio Penri (StrataMatrix); Alun Gruffudd (Cyngor ar Bopeth Cymru); Joe Ferris (ABPI Cymru Wales); a Claire Bottomley (Mind Cymru).
Mi fydd gweddill aelodau’r Pwyllgor
Gwaith yn cytuno swyddi yn ei cyfarfod misol nesa ar Tachwedd 8fed.
PWYLLGOR SENEDDOL AR WEINYDDIAETH CYHOEDDUS I GYNNAL YMCHWILIAD AR LOBIO
Mae PAC wedi croesawi y penderfyniad ym Mhwyllgor Gweinyddiaeth Cyhoeddus San Steffan i gynnal ymchwiliad i’r diwydiant lobio. Mae’r Pwyllgor wedi gofyn i fudiadau sydd a diddordeb igynnig tystiolaeth i’r ymchwiliad. Hon fydd yr ymchwiliad seneddol gyntaf ar bwnc lobio ers yr adroddiad 1991 gan y Pwyllgor ar Ddioddordebau Aelodau. I weld mwy am yr ymchwiliad gan gynnwys y Cwestiynau a gofynnir, ewch iPapur Materion a Chwestiynau. Dylid anfon unrhyw ymatebion erbyn 21 Medi 2007.
MAE PAC ARLEIN
Ar Ddydd Iau 10fed Mai, nid ymddiswyddiad Tony Blair a'r trafodaethau parhaol dros creu Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd oedd yr unig newyddion gwleidyddol newydd.
Yng Nghaerdydd, cafodd aelodau Public Affairs Cymru siawns i weld wefan newydd PAC – teclyn hanfodol ac angenrheidiol i'r mudiad. Gellir gweld y wefan yn: www.publicaffairscymru.com
Datblygwyd y wefan i roi gwybodaeth am ddigwyddiadau gorffennol a dyfodol PAC ar gyfer yr aelodaeth ehangach, sydd erbyn hyn yn 53. Mae hefyd tudalen ar y wefan er mwyn i aelodau rhannu gwybodaeth am swyddi newydd neu digwyddiadau cymdeithasol.
Yn lawnsio'r wefan yn un o aelodau cyffredinol PAC, meddai Russell Lawson, Cadeirydd PAC: “Mae'r wefan yma yn ffordd modern a ddefnyddiol i aelodau PAC rhywdweithio a chadw lan gyda beth a drefnwyd ar gyfer y chwe mis nesaf. Mae'n rhaglen yn un amrywiol sy'n cynnwys y siawans i gwrdd a aelodau Cynulliad, ymweld a'r BBC yn Llandaff, ac rydym hefyd yn edrych ar drefnu trip i Ogledd Iwerddon.”
Meddai Swyddog Cyfathrebu PAC Daran Hill, a fu'n gyfrifol am datblygu'r wefan ar ran Pwyllgor Gwaith PAC: “Rydym yn falch i gyrraedd y byd arlein. Yn ystod etholiad y Cynulliad diwethaf roedd blogio'n topic mawr ac mae lle gwleidyddiaeth Cymreig yn bendant nawr ar y we. Mae PAC ar flaen y gad.”
Dangoswyd y wefan i aelodau am y tro cyntaf yng nghyfarfod cyhoeddus cyntaf PAC ers Etholiad Y Cynulliad ar Mai 3ydd. Y siaradwr gwadd yn Las Iguanas, Caerdydd oedd Vaughan Roderick, Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru a'i hun yn blogiwr adnabyddus.
PAC YN CYNNAL DIGWYDDIAD MEWN CYNHADLEDD WLEIDYDDOL AM Y TRO CYNTAF
Daeth 24 o aelodau a darpar aelodau PAC ynghyd i ginio preifat yn Llandudno ar ddydd Gwener y 23ain o Chwefror a chael croeso gan Gadeirydd PAC, Russell Lawson. Roedd swyddogion materion cyhoeddus o bob cwr o Gymru yn Llandudno ar gyfer cynhadledd flynyddol Llafur Cymru ac achubwyd ar y cyfle i gyfarfod am bryd o fwyd mewn awyrgylch hwyliog.
Dywedodd Claire Lawson, Swyddog Digwyddiadau PAC, trefnydd y noson, "Roedd hwn yn ddigwyddiad oedd yn llawn hwyl ac fe gafodd pawb ddaeth yno amser da. Roedd Osborne House yn lleoliad gwych ar gyfer noson ddifyr i drin a thrafod y diweddaraf o ran gwleidyddiaeth a pholisi yng Nghymru. Ar ol clywed yr ymateb fe fyddwn yn bendant yn gwneud rhywbeth tebyg eto."
CYDNABYDDIAETH ALLANOL I PAC AM Y TRO CYNTAF
Cafodd Francesca Montemaggi, Swyddog Cyfathrebu
(Aelodaeth) wahoddiad i gynrychioli PAC ar weithgor sy'n trefnu cynhadledd yn y
dyfodol ar y Cynulliad 'newydd'. Estynnwyd y
gwahoddiad gan y Llywydd ac mae'r penodiad yn adlewyrchu ei phrofiad o'r
gyfraith a datganoli mewn sawl gwlad. Dyma'r tro cyntaf ers sefydlu'r
grwp i gorff allanol wneud cais am gydweithrediad gan aelod o
Dywedodd Francesa Montemaggi, "Mae hwn yn gam mawr ymlaen i PAC fel corff sy'n cynrychioli'r maes materion cyhoeddus ehangach yng Nghymru. Mae'r Llywydd wedi bod yn tu hwnt o gefnogol i'n mudiad newydd ac mae'n bleser ac yn anrhydedd i fi gael cais i fod â rhan yn y cynllun cyffrous hwn. Fe all cynhadledd yn cynrychioli nifer o gyfran-ddeiliaid wneud cryn dipyn i ddatblygu polisi a gwleidyddiaeth yng Nghymru."
CYLCHGRAWN AM DDIM I GEFNOGWYR PAC
Newyddion ardderchog - mae PAC wedi dod ynghyd gyda
Public Affairs News i gynnig copi am ddim o rifyn mis Mawrth i aelodau a darpar
aelodau
Roedd aelodau yn gallu derbyn copi am ddim drwy gysylltu a Public Affairs News cyn dydd Iau 22ain o Chwefror.
PAC YN Y PENAWDAU Y TU ALLAN I GYMRU
Yn rhifyn Chwefror 2007 o Public Affairs News
Fe fydd grwp newydd yn cael ei lansio ym Mae Caerdydd ddydd Iau (18fed o Ionawr 2007) i godi proffil lobïo proffesiynnol yng Nghymru a chyfrannu at y drefn o wneud penderfyniadau yn y Cynulliad. Sefydlwyd Public Affairs Cymru (PAC) fel grwp ymbarèl ar gyfer lobïwyr i godi safonau a gwella enw da materion cyhoeddus yn lleol. Y digwyddiad cyntaf o bwys fydd anerchiad gan y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. Etholwyd pwyllgor cyntaf y grwp gyda'r bwriad o fod yn bont rhwng gwneuthurwyr polisi a'r byd suful ehangach.
Dywedodd Caderiydd PAC, Russell lawson, "Mae'r aelodau'n dod o bob math o gefndiroedd gwahanol - materion cyhoeddus masnachol a chwmniau cysylltiadau cyhoeddus, y sector wirfoddol, addysg, a chymdeithasau busnes a masnach, a'n bwriad yw sicrhau bod lobïo yn y Cynulliad yn digwydd mewn ffordd broffesiynnol a chyfrifol. "Fe fydd PAC yn hybu rhwydweithio, yn trefnu digwyddiadau ac yn hyrwyddo arfer da ymhlith yr holl sefydliadau sy'n rhan o'r byd lobïo gwleidyddol yng Nghymru," meddai.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y stori yn ei chyfanrwydd…..
LLYWYDD Y CYNULLIAD YN HELPU I LANSIO GRWP LOBIO NEWYDD I GYMRU
Y Llywydd, Arglwydd Dafydd Elis-Thomas oedd siaradwr gwadd digwyddiad cyntaf
y flwyddyn o
Wrth adrodd yn ôl am lwyddiant y cyfarfod , dywedodd Cadeirydd PAC, Russell Lawson, "Roedd heno'n llawn swm a sylwedd. Cawsom gyflwyniad ysgogol i gynulleidfa mwy ei faint o lawer na phan lansiwyd PAC yn ôl ym mis Hydref. Gydag aelodau yn gynyddol ymuno â PAC, y mae hyn yn argoeli'n dda i fenter newydd sydd yn ennill cefnogaeth ac yn asio ynghyd gysylltiadau newydd ym myd y rhai sy'n gweithio ym myd materion cyhoeddus yng Nghymru."
PAC YN CWRDD AR GYFER NADOLIG LLAWEN
Llawen yn wir oedd hwyl yr Wyl wrth i aelodau o PAC gwrdd ar Ragfyr 18fed, 2006 er mwyn edrych yn ôl dros y flwyddyn ddiddorol a chan edrych ymlaen hefyd at flwyddyn mwy llewyrchus fyth. Y Sosial Nadoligaidd yn SALT, ym mae Caerdydd oedd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol a drefnwyd er mwyn dod â gweithwyr yn y maes materion cyhoeddus ynghyd. Diolch i'r drefn na chipiwyd y digwyddiad ar gamra , yn enwedig y carolau Lladinaidd a'r datganiadau corawl o'r sioeau cerdd.
PWYLLGOR GWAITH PAC YN FFYNNU
Cyfarfu naw aelod Pwyllgor Gwaith Materion Cyhoeddus Cymru am y tro cyntaf ar nos Iau, Tachwedd 30, er mwyn dosbarthu dyletswyddau a phenderfynu ar strwythur y gwaith am y flwyddyn i ddod. Nodwyd dyddiadau lled-benodedig, ar gyfer pedwar cyfarfod ffurfiol ac fe gytunwyd cynnal cinio PAC yng Nghynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno, ym mis Chwefror. Y prif flaenoriaethau ar gyfer y chwe mis nesa fydd cynyddu'r aelodaeth a sefydlu gwefan a fydd yn galluogi PAC i gyfathrebu gyda'r aelodau yn lletach.
Dywedodd Cadeirydd PAC, Russell Lawson, "Cafwyd dechrau da gyda'r cyfarfod hwn. Roedd naw person talentog wedi rhoi o'u hamser i ddod ynghyd er mwyn ffurfio fforwm newydd ar gyfer materion cyhoeddus yng Nghymru. Rwy'n sicr y bydd effeithiolrwydd y cyfarfod hwn yn sylfaen dda ar gyfer y dyfodol. Yn awr, mae'n rhaid inni droi ein syniadau yn weithredoedd, a dangos i gynulleidfa ehangach ym maes materion cyhoeddus yng Nghymru, fod PAC yn gallu bod o wir werth".
Gellir canfod manylion y Pwyllgor Gwaith, yr aelodau a'u dyletswyddau yn ogystal â'r digwyddiadau a ddaw'n fuan, ar y wefan hon.
LANSIO MATERION CYHOEDDUS CYMRU
Ar Hydref 27ain, 2006, cafwyd cam ymlaen ym myd materion cyhoeddus yng Nghymru drwy sefydlu Materion Cyhoeddus Cymru ( PAC). Daeth tri ar hugain o bobl broffesiynol ynghyd er mwyn cyhtuno ar ddrafft o gyfansoddiad ac ethol Pwyllgor fyddai'n cynnwys naw o bobl. Hwyluswyd hyn gan Glyn Roberts o Grwp Materion Llywodraeth Gogledd Iwerddon (NIGAG), gydag anerchiad a ddangosodd y ffordd tuag at weithio yn effeithiol yn y dyfodol.
Dywedodd Cadeirydd newydd ei ethol,(PAC) Russell
Lawson, " Roedd heno'n ddechrau bendigedig i
Gellir cael cofnodion o'r cyfarfod hwn yma.
