Croeso 

Darren Hughes - Cadeirydd, Public Affairs Cymru 2008-09

Cafodd Materion Cyhoeddus Cymru (PAC) ei sefydlu yn Hydref 2006 i hwyluso rhwydweithio, trefnu digwyddiadau a hyrwyddo ymarfer da ym mysg y sefydliadau niferus sy'n ymgymryd â lobio gwleidyddol a materion cyhoeddus yng Nghymru. Rydym yn debyg i Grwp Materion Llywodraethol yn Llundain a Grwp Materion Llywodraethol Gogledd Iwerddon yn Belfast. Mae aelodau PAC yn ymarferwyr cyfathrebu proffesiynol sy'n dod i gyswllt yn rheolaidd gyda phob ffurf o lywodraeth. Mae ein gwaith gyda llywodraethau yn cynnwys nid yn unig lobio, ond hefyd pob agwedd o faterion cyhoeddus.

Caiff PAC ei redeg gan ymarferwyr materion cyhoeddus, ac mae'n gwasanaethu nifer cynyddol o ymarferwyr materion cyhoeddus yng Nghymru. Mae aelodaeth yn agored i unigolion am dâl aelodaeth flynyddol o £35 yn unig.

Yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diwethaf ar Ddydd Iau 9fed Tachwedd cytunwyd yr Adroddiad Blynyddol (yma), yr Adroddiad Ariannol (yma) ac etholwyd Pwyllgor Gwaith newydd.