Digwyddiadau Presennol a Dyfodol 


Cyswllt a PAC yn cyflwyno - 'Ble nesaf i’r iaith Gymraeg?’

Fe'ch gwahoddir i dderbyniad yn y Cwrt, y Senedd am 6.30pm, ar ddydd Mawrth, 7 Hydref. Bydd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn trafod polisi iaith Llywodraeth y Cynulliad, manteision cynnig gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a sut all Bwrdd yr Iaith Gymraeg helpu datblygu cynlluniau iaith gwirfoddol. Bydd cyfle i holi’r Gweinidog. Darperir lluniaeth ysgafn.

RSVP - lliopenri@publicaffairscymru.org

Y Canlyniadau Dysgu i aelodau PAC wrth fynychu bydd:

* Dealltwriaeth ehangach o gyfeiriad polisi iaith Gymraeg

* Gwerthfawrogiad o gynlluniau iaith gwirfoddol a’r gefnogaeth sydd ar gael

* Cyfle i drafod y GCD Iaith Gymraeg a’r goblygiadau

* Cyfle i rwydweithio a rhannu profiadau


Hydref

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Dydd Iau 9fed Hydref, 6pm - Norwegian Church

Agenda y noswaith fydd:

1. Cofnod yr AGM diwethaf:
Mae rhain ar gael yma

2. Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwaith
Mae'r Pwyllgor Gwaith wedi paratoi adroddiad ar ein gweithgareddau eleni. Mae'r Adroddiad Blynyddol 2007-08 ar gael yma. Rydym yn canmol yr Adroddiad i'n aelodaeth ac yn gofyn i chi ei ddarllen cyn y cyfarfod. Mae sawl mater ynddi ble hoffwn gael mewnbwyd ein aelodaeth.

3. Datganiad Ariannol
Mi fydd y Datganiad Ariannol yn cael ei ebostio i aelodau ar ddiwedd mis Medi ac ar agor am drafodaeth yn y cyfarfod.

4. Etholiadau i'r Pwyllgor Gwaith
Mae gwybodaeth am sefyll am etholiad ar gyfer Pwyllgor Gwaith Blwyddyn Nesaf i'w gael gan y Swyddog Etholiadau, Philippa Ford, ar elections@publicaffairscymru.org

5. Arolwg Aelodaeth
Mio fydd Kate Lewis yn rhoi adroddiad ar ganlyniadau'r Arolwg Aelodaeth PAC Members Survey ac agor mater y taliad am aelodaeth i'r llawr (mae'n rhaid i ni wneud hyn bob blwyddyn yn ol y Cyfansoddiad)

6. Gwellianau i'r Cyfansoddiad
Nid yw'r Pwyllgor Gwaith yn awgrymu unrhyw newidiadau i'r Cyfansoddiad eleni. Mae'n rhaid i unrhyw cais i newid y Cyfansoddiad o'r llawr cael ei gytuno yn y CCB. Rhaid ei roi yn ysgrifennedig o leia 7 diwrnod cyn y CCB, ac maent yn pasio gyda mwyafrif syml.

7. Cynnigion i'w drafod
Nid yw'r Pwyllgor Gwaith yn ceisio unrhyw Cynnigion fformal eleni. Rhaid rhoi unrhyw cynnigion gan yr aelodaeth yn ysgrifennedig o leia 7 diwrnod cyn y CCB, ac maent yn pasio gyda mwyafrif syml.
Mae'r Pwyllgor Gwaith, beth bynnag, wedi gwahodd Ruth Crowder o'r Is-Bwyllgor Datblygu Professiynol Parhaol (CPD) i roi adroddiad i aelodau APC ar eu gwaith, a gofyn i chi fwydo mewn ar dyfodol y maes yma.

8. Siaradwr Gwadd

Mi fydd yr Athro Stuart Cole yn annerch y cyfarfod ar ei brofiadau fel Ymgynghorydd Arbennig i'r Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan. Mae e'n siaradwr difyr bob tro.

9. Sylwadau i Gloi
Mi fydd y Cadeirydd newydd yn cymryd drosto a gwneud sylwadau i gloi'r cyfarfod.


 

Ymweliad i Media Wales @ Thomson House

Dyddiad i'w benodi

Rydym yn obeithiol trefnu ymweliad gyda'r ystafell newyddion ble fydd cartref newydd yr ystafell newyddion ar gyfer y Western Mail, South Wales Echo a'r Wales on Sunday. Efalli bydd y niferoedd ar yr ymweliad yn cyfyngiedig.