Cyfansoddiad
Y CYFANSODDIAD FEL Y MABWYSIADWYD AR 11 HYDREF 2007
1.
Nodau a
Phwrpas
|
a)
Mae Public Affairs Cymru
(PAC) yn gyfrifol am y canlynol:
·
cynghori ynglyn ag arfer
broffesiynol mewn materion cyhoeddus yng Nghymru
·
codi ymwybyddiaeth, a
hefyd
·
mwyhau enw da materion cyhoeddus
yng Nghymru
b)
Er mwyn cyflawni hyn bydd PAC
yn:
·
Darparu cyfleoedd rheolaidd i
aelodau glywed a thrafod barn a hanes achosion gyda siaradwyr
perthnasol.
·
Cynnal digwyddiadau cymdeithasol
er mwyn annog rhwydweithio.
·
Cyfathrebu ag aelodau PAC sy’n
byw neu’n gweithio oddi mewn i ardal ddaearyddol Cymru.
·
Cefnogi dwyieithrwydd a cheisio
trin y Gymraeg yn gyfartal â’r Saesneg mewn cyfathrebiadau ag
Aelodau.
·
Ymateb i neu gychwyn datganiadau
polisi sy’n effeithio ar faterion cyhoeddus.
·
Creu a chynnal gwefan gyda
lleiafswm o fanylion am y sefydliad am y sefydliad, digwyddiadau a
swyddogion.
·
Annog a hwyluso gweithgareddau
datblygiad proffesiynol ar gyfer aelodau
c)
Mae PAC yn cefnogi dwyieithrwydd,
gan gydnabod y bydd y Pwyllgor Gwaith yn gyfrifol am gynnal gwefan gan gynnwys
gwybodaeth am y sefydliad, digwyddiadau a manylion cysylltu am y
swyddogion.
|
2.
Aelodaeth |
a)
Diffiniad
(i)
Mae aelodaeth yn agored i bob
unigolyn oddi mewn i faterion cyhoeddus a chysylltiadau llywodraeth yng
Nghymru.
(ii)
Gall aelodau ymuno naill fel
unigolion preifat neu aelodau sefydliadol, ac mae’n rhaid iddynt nodi hynny fel
y cyfryw ar y ffurflen aelodaeth, ac maent yn dal yn gyfartal o ran statws a
hawliau pleidleisio,
(iii)
Mae aelodau unigol yn gyfrifol am
dalu eu ffi aelodaeth eu hunain, ac ni restrir unrhyw sefydliad y maent yn
perthyn iddo ar y wefan.
(iv)
Mae’n rhaid i aelodau sefydliadol
drefnu taliad eu tâl aelodaeth drwy eu cyflogwr. Bydd y sefydliad yn cadw’r
aelodaeth a gellir ei throsglwyddo oddi mewn i’r sefydliad hwnnw i unigolyn
arall. Rhestrir y cyfryw sefydliadau ar wefan PAC.
b)
Ffioedd
(i) Telir y ffi aelodaeth yn flynyddol ac mae’n dod yn ddyledus ar ôl pob CCB. Mae’r cyfnod aelodaeth yn rhedeg am flwyddyn o'r diwrnod ymuno.
(ii) Cytunir y lefel bob blwyddyn yn y CCB gan fwyafrif yr holl aelodaeth. Ar gyfer 2007/8 y ffigwr a osodir yw £35.
|
3.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol |
a)
Gweithdrefn
(i)
Mae’n rhaid
i’r Pwyllgor Gwaith ddarparu ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
(ii)
Bydd rhybudd
o 25 diwrnod gwaith o CCB, a hysbysir yr holl aelodau trwy’r post a bydd
hysbysiad yn ymddangos ar y wefan..
(iii)
Er mwyn iddo
fynd yn ei flaen, mae’n rhaid i CCB gael cworwm o 25% o’r aelodaeth.
(iv)
Dim ond yn
ystod CCB y gellir derbyn a phleidleisio ar unrhyw gynigion i newid y
cyfansoddiad. Rhaid cyflwyno cynigion yn ysgrifenedig i fyny at a chyn 7 niwrnod
cyn y CCB a gellir eu pasio trwy fwyafrif syml.
b)
Agenda (yn y
drefn gronolegol ofynnol)
(i)
Bydd y
Pwyllgor Gwaith yn cwblhau a chyflwyno adroddiad ar ei weithgareddau yn ystod y
flwyddyn flaenorol.
(ii)
Bydd y
Pwyllgor Gwaith o’r flwyddyn flaenorol yn cyflwyno Datganiad Ariannol i’r
aelodaeth.
(iii)
Cynhelir
etholiadau i’r Pwyllgor Gwaith yn ôl adran 4 o’r Cyfansoddiad.
(iv)
Cymerir
pleidlais ar Adran 2b(ii) ynglyn â’r ffi aelodaeth am y flwyddyn sy’n dod.
(v)
Newidiadau
i’r Cyfansoddiad.
(vi)
Dadl a
phleidleisiau ar unrhyw fesurau.
c)
Cyfarfod
Cyffredinol Arbennig
(i)
Gellir galw
Cyfarfod Cyffredinol Arbennig (CCA) ar ôl derbyn deiseb wedi'i harwyddo gan 25%
o’r aelodaeth, sydd wedi'i chyflwyno i’r Gadair neu’r Is-Gadair.
(ii)
Rhaid cynnal
CCA a elwir yn y modd hwn o fewn mis i’r ddeiseb gael ei derbyn, ac mae’n rhaid
cynnwys cyfnod rhybudd ysgrifenedig o 10 diwrnod gwaith.
(iii)
Mae cynnwys y
ddeiseb yn diffinio a chyfyngu gorchwyl y CCA i’r mater(ion) hynny yn unig..
|
4.
Gweithdrefnau Etholiadau |
a)
Amserlen
(i)
Bydd Swyddog
Etholiadau yn goruchwylio pleidlais gudd o aelodau i’r Gadair a’r Pwyllgor
Gwaith.
(i)
Etholir y
Swyddog Etholiadau o’r Pwyllgor Gwaith gan y Pwyllgor Gwaith chyhoeddir ei
enw/henw yn yr hysbysiad cyntaf i aelodau am y CCB.
(ii)
Rhaid i’r
Swyddog Etholiadau ofyn am enwebiadau 25 diwrnod gwaith cyn dyddiad y CCB. Rhaid
e-bostio hysbysiad i’r holl aelodau ynghyd â’i bostio ar y wefan..
(iii)
Bydd
enwebiadau yn cau 5 diwrnod gwaith cyn y CCB.
b)
Enwebiadau
(i)
Rhaid i
ymgeiswyr fod yn aelod taledig er mwyn sefyll etholiad.
(ii)
Rhaid i
ymgeiswyr enwebu eu hunain a chael eu heilio gan ddau aelod taledig o PAC.
(iii)
Rhaid
e-bostio enwebiad dilys i’r Swyddog Etholiadau yn Elections@publicaffairscymru.org gan atodi
e-bostiadau’r ddau eilydd. Bydd y Swyddog Etholiadau yn cydnabod derbyn yr
enwebiad dilys trwy e-bost o fewn 5 niwrnod gwaith.
(iv)
Postir
enwau’r holl ymgeiswyr dilysedig ar y wefan ar y dydd y mae enwebiadau’n
cau..
(v)
Gall
ymgeisydd gyflwyno datganiad 250 o eiriau fan bellaf cyn i enwebiadau gau, a
bydd y Swyddog Etholiadau yn ei bostio ar wefan PAC yn ddwyieithog.
(vi)
Gall
ymgeiswyr sefyll ar gyfer y Gadair a/neu’r Pwyllgor Gwaith a defnyddio’r un
enwebwyr. Mae’n rhaid i e-bost enwebu ymgeisydd nodi ar gyfer p’un neu’r ddwy
swyddogaeth y maent yn dymuno sefyll.
c)
Etholiad
(i)
Yn y CCB,
bydd y Swyddog Etholiadau yn penodi dau archwiliwr o aelodaeth gyffredinol PAC
nad ydynt yn Aelodau’r Pwyllgor Gwaith na chwaith lle bo hynny’n bosibl yn
Ymgeiswyr neu enwebwyr. Cymerir enwebiadau am archwilwyr o’r llawr gan
bleidleisio drostynt drwy godi dwylo os oes rhaid. Bydd
archwilwyr yn cadw eu hawl i bleidleisio.
(ii)
Bydd papurau
pleidleisio wedi'u codio gan y Swyddog Etholiadau ac nid ydynt i’w datgelu i neb
arall ar wahân i archwilwyr pe cwestiynir dilysrwydd etholiad gan aelod o
PAC.
(iii)
Cyhoeddir dwy
ffurflen bleidleisio i bob aelod. Bydd un ar gyfer y Gadair ac un ar gyfer y
Pwyllgor. Bydd enwau’r enwebedigion dilysedig ar bob un o’r papurau. Bydd
aelodau yn cael un bleidlais ar gyfer y Gadair ac wyth ar gyfer y Pwyllgor. Bydd
nwy ha hyn o bleidleisiau yn gwneud y papur pleidleisio’n annilys. Dylid bod hyn
wedi'i egluro ar y papur pleidleisio.
(iv)
Cynhelir y
ddau etholiad (ar gyfer y Gadair ac ar gyfer y Pwyllgor Gwaith) gan ddefnyddio
Cyntaf i’r Felin.
(v)
Dim ond ar
noson yr etholiad y rhoddir papurau etholiad i bob aelod taledig o PAC, a bydd
yn rhaid arwyddo amdanynt. Ni chaniateir unrhyw bleidleisiau dirprwyol na
phleidleisiau trwy’r post.
(vi)
Pe ddigwydd
anghysondeb, bydd dyfarniad y Swyddog Etholiadau a’r ddau archwiliwr yn
derfynol.
(vii)
Gellir ethol
ymgeisydd dilysedig in absentia. Pe ddigwydd mai’r Gadair newydd yw ef/hi, bydd
Cadair y CCB yn parhau yn ei swyddogaeth tra pery’r cyfarfod hwnnw.
(viii)
Cymerir
etholiad y Gadair yn gyntaf a bydd ef/hi yn dod i’w swydd yn union wedi etholiad
dilynol yr wyth swyddogaeth sydd ar ôl y Pwyllgor Gwaith.
|
5.
Pwyllgor
gwaith |
a)
Cyffredinol
(i)
Cyfrifoldeb y
Pwyllgor Gwaith yw rheolaeth feunyddiol PAC.
(ii)
Bydd y
Pwyllgor yn sicrhau y gweithredir ac y cynhelir nodau a dibenion PAC i’r safon
uchaf.
(iii)
Mae’n rhaid i holl aelodau’r Pwyllgor Gwaith ymrwymo y
byddant, wrth gymryd rhan yng ngweithgareddau PAC y byddant yn ymddwyn yn
briodol a chyda gofal at eu hunain, enw da PAC a holl bersonau ac eiddo
arall.
(iv)
Ystyrir y
bydd unrhyw aelod o’r Pwyllgor Gwaith nad yw wedi mynychu tri chyfarfod dilynol
o’r Pwyllgor heb reswm dilys, wedi ymddiswyddo o’r Pwyllgor Gwaith a gellir
llenwi’r fath le gwag trwy gyfethol.
(v)
Bydd PAC yn
cadw cyfrif banc, a gynhelir gan y Trysorydd, a bydd ef/hi yn darparu cyfrifon
blynyddol i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Bydd gan y cyfrif dri o lofnodwyr
gan gynnwys y Gadair a’r Trysorydd.
b)
Rolau
(i) Bydd
y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys Cadair, Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith, Swyddog
Aelodaeth, dau Swyddog Digwyddiadau, Trysorydd, Swyddog Cyfathrebiadau Mewnol
(Gwefan), Swyddog Cyfathrebiadau allanol (CC) a Swyddog Polisi.
(ii)
Diffinnir
holl rolau’r Pwyllgor Gwaith yn Atodiad A i’r cyfansoddiad hwn.
(iii)
Yng
nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor gwaith (yn dilyn y CCB), cynhelir etholiad, gan
ddefnyddio’r Cyntaf i’r Felin, i ddyrannu’r wyth rôl oddi mewn i 5.b(i).
(iv)
Bydd y Gadair
yn gweithredu fel Swyddog Etholiadau ac mi all gynnal pleidlais gudd os oes
unrhyw aelod o’r Pwyllgor Gwaith yn gofyn am hyn. Bydd y Gadair yn gofyn am
enwebiadau. Mae hi felly’n hanfodol fod unrhyw ymgeisydd sy’n sefyll am y Gadair
yn y CCB yn ymwybodol bod yn rhaid iddo fe/hi fynychu cyfarfod cyntaf y Pwyllgor
Gwaith.
(v)
Unwaith y
bydd rolau’r Pwyllgor gwaith wedi'u llenwi, cynhelir etholiad wedi hynny i ethol
un o’r Pwyllgor Gwaith i rôl ychwanegol Is-Gadair.
(vi)
Ni all unrhyw
aelod o’r Pwyllgor Gwaith wasanaethu fel swyddog yn yr un swyddogaeth am gyfnod
o fwy na dwy flynedd yn olynol.
c)
Gweithdrefn
fusnes y Pwyllgor Gwaith
(i)
Y cworwm ar
gyfer unrhyw gyfarfod o’r Pwyllgor Gwaith fydd pump.
(ii)
Bydd y
Pwyllgor Gwaith yn cwrdd ar ail ddydd Iau pob mis. Bydd Ysgrifennydd y Pwyllgor
Gwaith, gan gymryd barn y Pwyllgor i ystyriaeth, yn llogi lleoliad ar gyfer pobl
cyfarfod o’r Pwyllgor, a chymryd cofnodion pob cyfarfod. Ysgrifennir cofnodion i
fyny a’u cylchlythyru i holl aelodau’r Pwyllgor o fewn 10 diwrnod gwaith.
(iii)
Bydd
Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith yn danfon Cais am eitem Agenda allan i holl
aelodau’r Pwyllgor dwy wythnos cyn pob cyfarfod. Danfonir Agenda, ynghyd â
phwyntiau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol, allan wythnos cyn pob cyfarfod.
(iv)
Gall aelodau
PAC nad ydynt ar y Pwyllgor Gwaith gyflwyno ceisiadau am eitemau agenda trwy’r
ysgrifennydd.
(v)
Postir
penderfyniadau a chyhoeddiadau allweddol o’r Pwyllgor Gwaith ar y wefan.
ch) Lleoedd
gwag a chyfethol
(i)
Bydd gan y
Pwyllgor Gwaith y pwer i gyfethol aelodau o lenwi unrhyw leoedd gwag
angenrheidiol a/neu gynyddu maint y Pwyllgor tan y CCB nesaf.
(ii)
Mae
defnyddio’r pwer hwn i gyfethol yn ofodol arno pe ddigwydd i nifer yr aelodau
o’r Pwyllgor Gwaith a etholir yn uniongyrchol ddisgyn i lai na phump.
Atodiad A – Disgrifiadau Swyddi’r Pwyllgor Gwaith
|
Cyfrifoldebau generig – bydd y rhain yn gymwys ar
gyfer holl aelodau’r Pwyllgor Gwaith
|
Holl Aelodau’r Pwyllgor Gwaith
1)
Mynychu cyfarfod o Bwyllgor Gwaith PAC a chyfrannu i’w
waith. 2)
Gweithio i ddiogelu enw da a gwerthoedd y
sefydliad 3)
Helpu hyrwyddo gwaith MCC i drwch yr aelodaeth a denu
aelodau dichonol. 4)
Cymryd rôl weithredol yn amcanion MCC 5)
Cyfrannu at weinyddiad effeithiol ac effeithlon y
sefydliad 6)
Cynrychioli’r sefydliad mewn digwyddiadau, pwyllgorau
ayb 7)
Rhaid
defnyddio cyfeiriadau e-bost unigol (h.y. Chair@publicaffairscymru.org)
ar gyfer pob busnes PAC er mwyn sicrhau dilyniant rhwng y Pwyllgorau a
etholir yn flynyddol. |
|
Cyfrifoldebau
ychwanegol ar gyfer pob un o’r swyddogaethau |
|
Y Gadair 1)
Sicrhau
bod PAC yn canlyn ei amcanion yn ôl diffiniad ei ddogfen llywodraethu 2)
Diogelu
enw da a gwerthoedd y sefydliad 3)
Sicrhau
gweinyddiad effeithiol ac effeithlon y sefydliad 4)
Cadeirio a hwyluso cyfarfodydd 5)
Monitro
y gweithredir penderfyniadau a gymerir mewn cyfarfodydd 6)
Gweithredu fel blaen llefarydd y sefydliad fel bo
hynny’n briodol 7)
Dod ag
amhleidioldeb a gwrthrychedd i wneud-penderfyniadau |
Ysgrifennydd y Pwyllgor
1)
Gosod
yr Agenda ar gyfer cofnodion ·
trwy
ofyn am eitemau ddwy wythnos cyn y cyfarfod 2)
Cymryd
cofnodion y cyfarfod ·
Cofnodion i’w hysgrifennu i fyny a’u cylchredeg i holl
aelodau’r Pwyllgor o fewn 10 diwrnod gwaith (os nad yw’r Pwyllgor yn
cytuno fel arall ymlaen llaw) ·
Ail-ddanfon cofnodion gydag Agenda (wythnos cyn y
cyfarfod) yn nodi pwyntiau gweithredu ar gyfer holl aelodau’r Pwyllgor
Gwaith 3)
Cynghori’r Gadair ynglyn â mecanwaith / rhaglennu /
trefniadau ar gyfer cyfarfodydd 4)
Cynnal
cronfa ddata cysylltiadau ar gyfer aelodau o’r Pwyllgor Gwaith 5)
Sicrhau
cworwm cyn cyfarfod o’r Pwyllgor gwaith a chanslo’r cyfarfod os yw’r
presenoldeb yn rhy isel 6)
Cynnal
a chylchredeg rhestr cysylltiadau diweddaredig ar gyfer aelodau o’r
Pwyllgor Gwaith |
Trysorydd
1)
Gwneud
cofnod o dderbynebion a thaliadau i’r sefydliad ar gyfer Ionawr i Ragfyr a
darparu cofnod blynyddol i’r sefydliad. 2)
Darparu
adroddiad trysorydd ar gyfer y CCB ym mis Hydref bob blwyddyn. Rhaid i’r
cofnodion gael eu cynnig a’u heilio. 3)
Agor y
cyfrif banc gan wneud unrhyw newidiadau i’r trefniadau gyda’r banc a
ddefnyddir gan PAC. 4)
Cadw
gofal o’r llyfrau cyfrifon, gan gynnwys y ‘llyfr talu i mewn’ a llyfr
sieciau PAC. 5)
Bod yn
gyfrifol am dalu sieciau ar gyfer unrhyw gostau y bydd PAC wedi mynd
atynt. 6)
Bod yn
gyfrifol am dalu unrhyw sieciau a wneir yn daladwy i’r sefydliad. 7)
Danfon anfonebau a derbynebion fel bo’r angen a
chadw cofnod blynyddol o’r rhain. 8)
Mae
hi’n arferol cadw papurau i gefnogi cyfrifon am gyfnod o chwe blynedd.
Bydd hi’n bwysig trosglwyddo pob gwaith papur a manylion am gyfrifon
ymlaen i’r trysorydd newydd pan fydd cyfnod y swyddogaeth yn dod i ben.
|
Swyddog Cyfathrebiadau
Mewnol (Gwefan)
1)
Datblygu a hyrwyddo polisi cyfathrebiadau mewnol ar
gyfer Materion Cyhoeddus Cymru, gan sicrhau ‘r defnydd o gyfeiriadau
e-bost safonedig a diwyg unffurf ar gyfer dogfennau. 2)
Datblygu a chynnal mecanweithiau i aelodau eraill o’r
Pwyllgor Gwaith fewnbynnu yn uniongyrchol i ddiweddaru gwefan PAC. 3)
Gweithio gyda’r Gadair a’r Swyddog Aelodaeth i
ddatblygu cysylltiadau mewnol gyda’r aelodaeth a noddwyr. 4)
Arwain
(gan weithio gyda’r Swyddog Cyfathrebiadau Allanol) ynglyn â datblygu
polisi dwyieithog effeithiol, cynhwysfawr ac ymarferol ar gyfer PAC. 5)
Gweithio gyda’r
Swyddog Aelodaeth a’r Swyddog Cyfathrebiadau Allanol i sefydlu cynlluniau
effeithiol a chyhoeddus ar gyfer recriwtio a chanfod aelodau.. |
Swyddog Cyfathrebiadau
Allanol (CC)
1)
Datblygu a hyrwyddo
polisi cyfathrebiadau allanol effeithiol ar gyfer Materion Cyhoeddus
Cymru. 2)
Sefydlu
a chynnal cysylltiadau allweddol politicaidd a chyfryngol. Cydgysylltu
gyda chyhoeddiadau perthnasol er mwyn sicrhau mewnbwn rheolaidd ar ffurf
erthyglau, colofnau a lluniau o ddigwyddiadau PAC. 3)
Gweithio gyda’r Gadair ac aelodau perthnasol eraill o
Bwyllgor Gwaith PAC i ysgrifennu erthyglau. 4)
Gweithio gyda’r Swyddog Cyfathrebiadau Mewnol ar
ddatblygu polisi dwyieithog effeithiol, cynhwysfawr ac ymarferol. 5)
Gweithio gyda’r Swyddog Aelodaeth a’r Swyddog
Cyfathrebiadau Mewnol i sefydlu cynlluniau effeithiol a chyhoeddus ar
gyfer recriwtio a chanfod aelodau. |
Swyddog Aelodaeth
1)
Cynnal cronfa ddata o
aelodau sydd wedi talu’n llawn. Mae’n rhaid i hwn gynnwys p’un ai ydynt yn
aelodau unigol neu sefydliadol er mwyn i statws yr aelodaeth parthed
trosglwyddedd gael ei bennu’n hawdd. 2)
Cynnal
cronfa ddata o gysylltiadau fel ‘aelodau dichonol’. 3)
Cydgysylltu yn agos â’r Gadair, Swyddog Cyfathrebiadau
Mewnol (Gwefan) a’r trysorydd er mwyn sicrhau y diweddarir y rhestr
aelodau yn rheolaidd. 4)
Cynnal
ymgyrchoedd aelodaeth yn rheolaidd. 5)
Darparu diweddariadau rheolaidd i’r Pwyllgor Gwaith
a’r aelodaeth yn gyffredinol ynglyn â statws aelodaeth PAC. 6)
Adolygu
polisi aelodaeth PAC yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn gynhwysol ac
archwilio categorïau aelodaeth ychwanegol i’w hadolygu yn y CCB. 7)
Darparu
gwaith papur perthnasol i aelodau newydd. |
Swyddogion Digwyddiadau (x2)
1)
Sicrhau bod rhaglen o ddigwyddiadau gydol y
flwyddyn. 2)
Cytuno rhaglen o ddigwyddiadau gyda’r Pwyllgor Gwaith.
Mae’n bosibl y bydd angen i’r Pwyllgor gwaith benderfynu pa Swyddog
Digwyddiadau sy’n arwain parthed rhyw ddigwyddiad neu a ddylai’r ddau
Swyddog weithio ar wahân ar wahanol ddigwyddiadau. 3)
Goruchwylio’r holl ddigwyddiadau rheolaidd ac
allgyrsiol mewn rôl gydlynu er mwyn sicrhau dilyniant ac osgoi dyblygu neu
wrthdrawiadau. Mae’n rhaid i’r ddau Swyddog Digwyddiadau sicrhau bod y
llall yn ymwybodol o’r holl ddigwyddiadau sydd ganddynt ar y gweill. 4)
Gweithio gyda’r Trysorydd er mwyn sicrhau y defnyddir
dulliau priodol ar gyfer anfonebau a derbynebion ar gyfer pob
digwyddiad. 5)
Sicrhau y cynhelir digwyddiadau i safon uchaf
proffesiynoldeb 6)
Goruchwylio cyswllt gyda noddwyr a darparwyr ac unrhyw
bartner digwyddiad arall. 7)
Cynnal pob digwyddiad oddi mewn i’r gyllideb a
gymeradwyir gan y Pwyllgor Gwaith. |
|
Swyddog
Polisi 1)
Sicrhau
bod rhaglen o ddigwyddiadau a yrrir gan bolisi gydol y flwyddyn, gan
weithio ar y cyd â’r Swyddogion Digwyddiadau. 2)
Monitro’r holl ddeddfwriaeth a blaengareddau polisi
perthnasol a dod â nhw at sylw PAC pan fo hynny’n briodol. 3)
Arwain ar ymatebion ymgynghori a galwadau eraill am
dystiolaeth oddi wrth y Llywodraeth ac asiantaethau
cysylltiedig. 4)
Gweithio gydag aelodau o’r Pwyllgor Gwaith ar
ddatblygu polisïau mewnol. 5)
Cynhyrchu briffiau ar gyfer aelodau o’r pwyllgor
Gwaith ar ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol y Llywodraeth. 6)
Cynhyrchu briffiau ar gyfer aelodau llawn PAC ynglyn â
deddfwriaeth a pholisïau perthnasol y Llywodraeth gan sicrhau, gyda’r
Swyddog Cyfathrebiadau Mewnol yr hysbysir ac y postir y rhain ar y
wefan. |
|
Is-Gadair Bydd hon yn swyddogaeth ychwanegol a ddisgwylir oddi
wrth un o’r Swyddogion uchod. Bydd y dyletswyddau'r un peth â’r Gadair a
chânt eu gweithredu ond pan nad yw’r Gadair ar gael ar gyfer
digwyddiadau’r Pwyllgor Gwaith neu aelodau llawn. |
</DIV>
