Croeso
Mae Public Affairs Cymru (PAC) yn gorff ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes materion cyhoeddus yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym mis Hydref 2006 a'i nod yw codi ymwybyddiaeth o'r diwydiant materion cyhoeddus a hybu arferion da. Erbyn hyn mae gennym bron 200 o aelodau sy'n elwa o gael mwynhau:
Cyfleoedd i rwydweithio a digwyddiadau
Mae'r aelodau'n cael gwahoddiadau yn aml i ddigwyddiadau PAC yn cynnwys darlithoedd a sesiynau holi ac ateb gyda siaradwyr amlwg ynghyd รข digwyddiadau rhwydweithio fel y Cinio Mawreddog Blynyddol.
Buddion i aelodau
Mae aelodau PAC yn cael cynnig nifer o fuddion, fel:
- Gostyngiad o 33% ar danysgrifiad blwyddyn i Public Affairs News.
- Gostyngiad o 10% ar gyhoeddiadau a digwyddiadau'r Sefydliad Materion Cymreig.
- Nifer o ostyngiadau pan fyddwch yn mynd i gynadleddau'r pleidiau gwleidyddol.
Datblygu gwybodaeth a sgiliau proffesiynol
Yn ogystal, mae bod yn aelod o PAC yn ffordd ardderchog o ddatblygu'ch sgiliau proffesiynol. Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau'n cynnig cyfleoedd dysgu amrywiol i bobl sy'n gweithio ym maes materion cyhoeddus a chyfathrebu ac rydym wedi datblygu nifer o becynnau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (C.P.D) y caiff ein haelodau eu defnyddio.
I gael gwybod sut y gall PAC gyfrannu at eich Datblygiad Proffesiynol Parhaus, ewch i'r dudalen Datblygiad Proffesiynol Parhaus.