Public Affairs Cymru

Ymuno

Mae aelodaeth PAC yn agored i unrhyw un sy'n gweithio ym meysydd materion cyhoeddus a chysylltiadau â'r llywodraeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae gennym bron 200 o aelodau.

Gellir ymuno fel aelod unigol neu aelod sefydliadol. Mae gan y ddau fath o aelod hawliau pleidleisio cyfartal; mae aelodau unigol yn gyfrifol am dalu eu ffioedd eu hunain ond y cyflogwr sy'n talu ffioedd aelodau sefydliadol a bydd y sefydliad yn cael ei gynnwys yn y rhestr aelodau ar wefan PAC.

£35 y flwyddyn yw cost bod yn aelod o PAC. Mae'r tâl aelodaeth yn is i fyfyrwyr amser llawn.

I ymuno, gallwch lawrlwytho'r ffurflen gais, ei llenwi a'i hanfon i'r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os bydd gennych ryw gwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddog Aelodaeth, Bobbie Davies