Digwyddiadau
Mae Public Affairs Cymru'n trefnu nifer o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Ceir rhestr isod o'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu. Os hoffech weld manylion y digwyddiadau rydym eisoes wedi'u cynnal, ewch i'r Archif Ddigwyddiadau.
Os oes gennych syniad am ddigwyddiad yr hoffech i PAC ei drefnu, cysylltwch â'n Cadeirydd.
Positif yn cymryd goron Cwis PAC
Cynnhaliwyd cwis blynyddol PAC yn Terra Nova ar y 18fed o Ionawr. Yn anffodus roedd ein lleoliad traddodiadol Harry Ramsden’s wedi cau am y diwrnod oherwydd problem gyda’u cyflenwad dwr. Diolch i Terra Nova am ymdopi ar byr-rhybudd ac i aelodau’r Pwyllgor Gwaith, yn enwedig Dominic Hannigan, am gwenud yn sicr roedd y cwis medru digwydd. Roedd yn ras tri ceffyl am rhan fwyaf o’r noson, ond ar ol brwydr hyd at y rownd terfynol rhwng Positif Politics, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (ac ar ol ail-cyfri!), Positif Politics yw pencampwyr Cwis PAC 2012. Dangosodd yr enillwyr wybodaeth ynglyn a manifestos, y ffilmiau Godfather a gwenidogion addysg i sicrhau’r wobr. Mae nhw wedi enwebu Gymdeithas Clefyd Motor Niwron i dderbyn y £82 a godwyd o’r noson. Diolch i enillwyr llynedd, ‘The Brick Fireplaces’ am drefnu’r cwestiynau.
Bar Cwtch Noson Nadoligaidd
I Bar Cwtch ar gyfer Noson Nadoligaidd PAC eleni, gyda’r cantores o Gaerdydd El Parisa yn darparu’r adloniant. Wrth i’r gwin poeth, pizza mins peis llufo roedd yn hawdd anghofio am y glaw a’r oerfel tu fas! Bu dros 30 gwestai ar y noson, gan cynnwys ACau ac staff gwleidyddol, ynghyd a traws-doriad o aelodaeth PAC. Diolch o galon i Clare Bath a Rhodri ab Owen am eu waith caled wrth trefnu’r noson. Nadolig Llawen i bawb.
Seminar Brecwast Cynta’ PAC
Cynhaliwyd y cynta’ yn ein gyfres o Seminarau Brecwast ‘Gweledigaeth 2020’ ym Mar a Gegin Mimosa ar y 30ain o Dachwedd. Daran Hill, MD Positif Politics, oedd ein siardarwr gwadd, ac aethon yn y DeLorean metafforaidd i wleidyddiaeth Cymru’r 2020. Wnaeth Daran edrych i’r orwel ar gyfer gwestai, gan darogan dyfodol y system etholiadol, Comisiwn Silk; y cyfryngau wleidyddol; a materion cyhoeddus yn gyffredinol. Cadwch lygad mas am Seminaru Brecwast arall yn 2012, ar Dydd Mercher olaf pob mis.
Grŵp gorchwyl a gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddyfodol y cyfryngau yng Nghymru
Ar ran grŵp gorchwyl a gorffen Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ragolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau yng Nghymru, hoffwn eich gwahodd i gymryd rhan mewn sgwrs fyw ar y we gydag aelodau o’r grŵp ddydd Llun 28 Tachwedd am 18.00.
Diben yr ymchwiliad yw archwilio modelau a llwybrau tuag at sefydlu sector cyfryngau cynaliadwy yng Nghymru ac mae’n cwmpasu pob agwedd ar y diwydiant, gan gynnwys teledu, radio, papurau newydd a chyfryngau ar-lein.
Fel rhan o’r ymchwiliad, mae Aelodau o’r farn y dylai’r cyfoeth o flogiau a gwefannau lleol yng Nghymru gael y cyfle i ddweud eu dweud am eu lle o fewn y sector a’r hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol.
Mae’r grŵp eisoes wedi clywed gan benaethiaid sefydliadau yn y cyfryngau fel ITV Cymru, BBC Cymru ac S4C a chyn hir bydd yn clywed tystiolaeth gan olygyddion papurau newydd a newyddiadurwyr.
Gallwch weld rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad, gan gynnwys y cylch gorchwyl, tystiolaeth a ddaeth i law a chyfarfodydd blaenorol, drwy ddilyn y linc hwn.
Gallwch hefyd wylio sesiynau tystiolaeth blaenorol ar Senedd.tv. Cafodd cyfarfodydd eu cynnal ar 13 Hydref, 3 Tachwedd a 17 Tachwedd.
Dyma'r tro cyntaf i un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddewis ceisio barn y cyhoedd drwy sgwrs fyw ar y we ac rydym yn gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle hwn. Mae sgwrsio ar y we yn ffordd llai ffurfiol o gasglu gwybodaeth, mae’n llai brawychus, efallai, na chyflwyno tystiolaeth mewn sesiwn ffurfiol ac mae’n galluogi pobl i gyfrannu o ble bynnag y maent.
Er mwyn llunio agenda ar gyfer y sgwrs fyw, byddem yn gwerthfawrogi rhybudd ymlaen llaw am unrhyw syniadau neu feysydd pwnc rydych am eu trafod. Gallwch anfon y rhain ataf fi, Clerc y grŵp, yn PwyllgorCCLlL@cymru.gov.uk, neu gallwch eu trydar gan ddefnyddio’r hashtag #mediacyfryngau.
Bydd agenda a manylion am sut i ymuno â’r sgwrs yn cael eu cyhoeddi yn nes at y dyddiad.
Os dymunwch, gallwch flogio am y sgwrs fyw hon a gofyn am syniadau gan eich cymuned. Bydd y sgwrs yn para am awr, ond bydd cyfle i wneud rhagor o sylwadau ac awgrymiadau ar ôl yr awr honno fel y gall pobl barhau â’r drafodaeth os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Gofynnwn i chi gadarnhau y byddwch yn cymryd rhan cyn gynted ag y bo modd fel y gallwn gadarnhau’r niferoedd a llunio agenda er mwyn i bobl ei ystyried.
Breakfast Seminar
Sorry, but this post is not available in Welsh
A oes yna ddyfodol i’r AS Cymreig? Taith i Lundain!
Gwahoddir chi i: A oes yna ddyfodol i’r AS Cymreig? Taith i Lundain!
Lleoliad: Llundain (San Steffan a City Hall)
Dyddiad: Dydd Iau, 24ain o Dachwedd
Amser: Sesiynau i ddechrau am 14:30 a 18:00
RSVP: cyswllt@fbagroup.co.uk erbyn dydd Gwener, 11eg o Dachwedd
Mae Cyswllt wedi trefnu dwy sesiwn gyffrous yn Llundain ar y 24ain o Dachwedd ar gyfer ei aelodau ac aelodau Public Affairs Cymru
- 14:30 - 16:00: Trafodaeth ar rôl yr Aelodau Seneddol Cymreig yn y dyfodol - sesiwn holi ac ateb gyda phanel o Aelodau Seneddol ac Arglwyddi blaenllaw o Gymru. Ymhlith pethau eraill bydd y panelwyr yn rhannu eu syniadau ar ddyfodol yr ASau Cymreig. datganoli, a goblygiadau’r lleihad yn nifer yr ASau ar eu gwaith craffu ar ran pobl Cymru.
- 18:00 - 19:30: Sgwrs â Guto Harri, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson, Maer Llundain. Dyma gyfle i holi Guto am ei waith bob dydd, paratoadau ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, etholiadau’r Maer y flwyddyn nesaf, gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus yn gyffredinol.
RSVP: Rhaid cadarnhau eich bod yn mynychu’r digwyddiad erbyn dydd Gwener 11eg
o Dachwedd drwy e-bostio cyswllt@fbagroup.co.uk. Cofiwch mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu!
Unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Heulyn Gwyn Davies ar 07710002904.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Materion Cyhoeddus Cymru yn ei gynnal am 5:30 pm ar ddydd Iau 6ed Hydref 2011 yn y swyddogaeth ystafell i fyny'r grisiau yn y Tafarn Llanfa ym Mae Caerdydd (http://www.thewharfcardiff.com/contact-us)
Er mwyn gwneud cworwm, mae’n rhaid bod o leiaf 25% o aelodaeth PAC yn bresennol. Byddwn yn ddiolchgar petai aelodau PAC i gyd yn medru gwneud pob ymdrech i fynychu. Byddwn ni’n ddiolchgar iawn petaech chi’n medru gadael ni wybod cyn gynted ag sy’n bosibl os ydych yn bwriadu dod neu beidio drwy gysylltu â liamurphy@publicaffairscymru.org
Dyma agenda ddrafft ar gyfer y noson. Caiff y papurau i gyd eu hanfon atoch dros e-bost yr wythnos cyn y cyfarfod:
1. Cofnodion y Cyfarfod Blynyddol diwethaf
2. Adroddiad Blynyddol y Grwp Gweithredol
3. Datganiad Ariannol
4. Etholiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol
Bwffe a Lluniaeth - caiff bwffe, gwin a diodydd ysgafn eu gweini yn ystod y broses etholiadol.
5. Canlyniadau’r arolwg aelodaeth a phleidlais ar y ffi aelodaeth
6. Diwygiadau i’r cyfansoddiad Dylai unrhyw aelod PAC sydd am gynnig diwygiad i’r cyfansoddiad wneud hyn yn ysgrifenedig i mi drwy e-bostio Chair@publicaffairscymru.org, o leiaf 7 diwrnod cyn yr AGM.
7. Unrhyw gynigion eraill Dylai unrhyw aelod PAC sydd am wneud cynnig gwneud hyn yn ysgrifenedig drwy e-bostio Chair@publicaffairscymru.org, o leiaf 7 diwrnod cyn yr AGM.
8. Canlyniadau’r Etholiad
9. Sylwadau i gloi
Bydd y Cadeirydd newydd yn cymryd drosodd ac yn rhannu sylwadau i gloi’r cyfarfod.
Derbyniad blynyddol yn Y Senedd
Agorwyd derbyniad blynyddol PAC gan Rebecca Evans AC, ac fe’i cynhaliwyd eleni yn y Senedd. Croesawodd Rebecca, cyn aelod o PAC, Weinidogion, Aelodau Cynulliad, staff y Cynulliad yn ogystal ag aelodau PAC i’r derbyniad diodydd, a chafodd pawb gyfle i fyfyrio ar flwyddyn brysur o ymgyrchu, lobïo ac etholiada.
Cafodd yr 50+ o bobl a ddaeth at ei gilydd yn yr Oriel yn Y Senedd gyfle da i gymdeithasu â thrawstoriad da o aelodaeth PAC, cwrdd â hen ffrindiau, cyfarfod aelodau newydd a thrafod cynlluniau gwyliau (neu ai hoe ddylai hwnna fod?!) gydag Aelodau Cynulliad. Roedd cynnal y digwyddiad yn Y Senedd yn syth wedi sesiwn lawn olaf y tymor yn ddiweddglo addas i flwyddyn o waith caled ym myd gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus yng Nghymru.
Aelodau PAC yn dweud eu dweud am y BBC
Bu grŵp o aelodau PAC mewn sesiwn casglu-tystiolaeth gyda Chyngor Cynulleidfa’r BBC yng Nghymru yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf yn ddiweddar.
Roedd y Cyngor Cynulleidfa yn awyddus i gael barn a safbwyntiau aelodau PAC ar wasanaeth y BBC yn ystod yr etholiad a’r refferendwm diweddar, a’r sylw ehangach a rodda yng Nghymru ac ar y rhwydwaith i ddatblygiadau gwleidyddol yng Nghymru. Cododd aelodau PAC faterion yn ymwneud â’r derminoleg a ddefnyddir mewn adroddiadau, pryderon am natur ‘Lloegr ganolog’ y ffordd y cyflwynir storïau iechyd ac addysg a pheth o’r sylw diwrnod-etholiad ar lefel Cymru a’r rhwydwaith. Roedd aelodau’n awyddus hefyd i longyfarch y BBC ar y gwelliannau yn y ffordd y caiff perthnasedd datblygiadau gwleidyddol i’r gwahanol genhedloedd ei chyflwyno a gwasanaeth y refferendwm a chanlyniadau diwrnod etholiad yn y Gymraeg.
Diolchodd aelodau’r Cyngor Cynulleidfa i PAC am ei gyfraniad, ac mae’n gobeithio datblygu cysylltiadau pellach gyda PAC ar ddigwyddiadau a chyfraniadau tebyg.
Cinio Mwyaf a Gorau eto
Gyda dros 120 o westeion yn bresennol, cynhaliwyd cinio blynyddol PAC yng Ngwesty’r Park Plaza, Heol y Brodyr Llwydion eleni.
Nick Bourne oedd y siaradwr gwadd, ac edrychodd yn ôl ar ei gyfnod yn y Cynulliad yn ogystal ag edrych ymlaen at ddyfodol Ceidwadaeth Gymreig a’i bersbectif ar y materion sy’n wynebu Llywodraethau Cymru a Phrydain. Mae llawer oedd yn bresennol yn awr yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyhoeddi dyddiaduron Nick!
Gyda chymorth gan Grayling a Positif Politics, mwynhaodd y gwesteion dderbyniad diodydd, pryd tri chwrs a pharti ar ôl cinio yng Nghlwb arbennig y KuKu Club yn y Park Plaza. Wrth i’r cinio blynyddol fynd yn fwy ac yn well bob blwyddyn, bu Cadeirydd PAC Michelle Matheron yn myfyrio ar gyfraniad aelodau i un o’r blynyddoedd prysuraf eto ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae trefnu digwyddiad mor fawr yn golygu llawer o waith gan Bwyllgor Gwaith PAC, a thrwy ymdrechion Lia Murphy, Bobbie Davies, Clare Bath a Sali Davies yn arbennig, cafwyd noson i’w chofio.
