Archif Digwyddiadau
Isod, mae manylion digwyddiadau Public Affairs Cymru a gynhaliwyd dros y misoedd diwethaf. Maent yn rhoi cip ar y math o ddigwyddiadau y mae'r aelodau'n cael cyfle i fynd iddynt.
Cewch fanylion digwyddiadau a gynhelir cyn hir ar ein tudalen Digwyddiadau.
Derbyniad Haf Blynyddol
6.00yh, Dydd Mawrth 13 Gorffennaf
Yr Oriel, Y Senedd
Cynhelir y derbyniad haf blynyddol ar 13 Gorffennaf. Mae’n ddigwyddiad poblogaidd iawn sy’n rhoi cyfle i aelodau PAC, Aelodau Cynulliad a gwesteion eraill i gymysgu, rhwydweithio a dathlu diwedd y tymor.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am y digwyddiad ac i RSVP, cysylltwch â Clare Bath
Digwyddiad BBC – 11 Gorffennaf
Mae Ymddiriedolaeth y BBC, corff sofran y Gorfforaeth, dan ddyletwydd Siarter i arolygu pob un o wasnanaethau'r BBC ol leiaf unwaith bob pum mlynedd. Ar hyn o bryd mae'r arolygu BBC Parliament a'r BBC News Channel. Mae rhagor o wybodaeth i'w gael yma: https://consultations.external.bbc.co.uk/departments/bbc/bbc-news-channel-a-bbc-parliament/consultation/consult_view
Mae Cyngor Darlledu Cymru y BBC yn cynghori'r Ymnddiriedolaeth ar farn cynulleidfaoedd yng Nghymru ac mae'n ymateb i bob arolwg gan amlinellu'r agweddau Cymreig arno. Wrth baratoi ei ymateb i'r ymgynghoriad ar BBC Parliament (gan gynnwys Democracy Live)a'r BBC News Channel mae'r Cyngor yn hynod o awyddus i glywed beth yw barn aelodau PAC ar y gwasanaethau hyn. Mae rhagor am y Cyngor i'w gael yma: http://www.bbc.co.uk/cymru/cyngorcynulleidfa/
Mae'r Cyngor wedi gwahodd aelodau PAC i ddod i'w gyfarfod i drafod yr arolwg, ac unrhyw beth arall fyddech am ei drafod am y BBC, dros bwffe ysgafn yn y Ganolfan Darlledu yn Llandaf am 18.00 ar 11 Gorffennaf am tua awr. Os hoffech chi ddod draw tybed a fyddech chi cystal a gadael i mi wybod erbyn dydd Mercher 6 Gorffennaf (chair@publicaffairscymru.org)
Cinio Blynyddol PAC
Cinio Blynyddol PAC - Mehefin 30ain, Gwesty Park Plaza, Caerdydd.
Mae'n bleser gen i wahodd chi i ymuno â ni ar gyfer Cinio Blynyddol PAC, sy’n cael ei gynnal ar nos Iau, 30 Mehefin o 7yh, yng ngwesty Park Plaza, Caerdydd. Rydym yn falch o gyhoeddi taw Nick Bourne fydd ein siaradwr ar ôl cinio.
Pris y tocynnau yw £42 am docyn sengl, a £375 am fwrdd o ddeg. Nid oes rhaid i chi fod yn aelod PAC i fynychu, mae croeso i chi wahodd cydweithwyr a gwesteion eraill.
RSVP i Lia Murphy gan fanylu unrhyw ofynion dietegol, a byddwch yn derbyn anfoneb am daliad.
Rwy'n gobeithio eich gweld yno i ddathlu blwyddyn arall cyffrous i Wleidyddiaeth Gymreig ac i Public Affairs Cymru.
Michelle Matheron
Cadeirydd, Public Affairs Cymru
Digwyddiad PAC Wedi’r Etholiad
Wedi cyffro’r etholiad a refferendwm, mae PAC yn cynnal noson anffurfiol (Gwener Mai 13) i haelodau cael dal lan ac ymlacio, gyda diodydd a lluniaeth ysgafn ar gael hefyd.
Lan loft yn Salt, Cei’r Forforwyn, Bae Caerdydd o 5pm ymlaen.
RSVP i Clare Bath os yn bosib, ond gan ei fod yn digwyddiad anffurfiol jyst trowch lan os gallwch.
Hustings Etholiadau’r Cynulliad
Bydd PAC yn cynnal hustings wrth nesau at yr etholiadau eleni er mwyn i chi gael gwarndo a holi’r pleidiau gwleidyddol gan gwestiynnu’r ymgeiswyr ar y pynciau sy’n bwysig i chi. Bydd y digwyddiad yn cynnwys 4 wyneb newydd nad ydynt wedi ymgeisio o’r blaen.
Dewch i dafarn y Cricketers ar Heol y Gadeirlan ar Ebrill 19eg am 5.45pm (i ddechrau am 6:00pm) er mwyn gwrando ar Mark Drakeford (Llafur), Craig Williams (Ceidwadwyr), Sera Evans- Fear (Plaid Cymru) a Nigel Howells (Dem Rhyddfrydol). Disgwylir i’r digwyddiad orffen am 7pm. Bydd croeso mawr i chi aros a ddiod yn y bar wedi hynny. RSVP Clare Bath
Ymgysylltu â Senedd y DU, sesiwn gyda Llefarydd Tŷ’r Cyffredin
14 Ebrill 2011, 2pm – 4pm, Caerdydd
(Dyddiad ac amser newydd yw'r rhain ar gyfer yr achlysur y bwriadwyd ei gynnal ym mis Chwefror 2011)
Mae prosiect Lleisiau dros Newid Cymru WCVA a Public Affairs Cymru wedi ffurfio partneriaeth gyda Gwasanaeth Allgymorth dau Dŷ’r Senedd i roi i chi gyfle unigryw i gael dweud eich dweud am gysylltu â Senedd y DU. Bydd Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, Mr John Bercow, yn dod i Gymru ar 14 Ebrill 2011.
Rydym yn cynnal digwyddiad rhad ac am ddim yng Nghaerdydd rhwng 2pm a 4pm lle cewch gyfle i wrando ar y Llefarydd a chymryd rhan mewn sesiwn Hawl i Holi am gysylltu’n well â’r Senedd. Uchafswm o 60 o bobl yn unig y mae’r lleoliad yn ei ddal, felly bydd llefydd yn cael eu cyfyngu i un unigolyn o bob sefydliad a chânt eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. I archebu lle, anfonwch e-bost vfcc@wcva.org.uk. Sylwer – RHAID i chi archebu lle os hoffech fynychu’r digwyddiad hwn.
Y Pedwerydd Cynulliad: Pwerau, Prosesau a Chymryd Rhan
28.03.2011 , Y Brif Neuadd, Pierhead, 09.30 – 13.00
Mae gwanwyn 2011 yn gyfnod unigryw a chyffrous yn hanes datganoli yng Nghymru. Yn ogystal â’r bleidlais ‘ie’ dros bwerau ychwanegol i’r Cynulliad Cenedlaethol, mae hefyd yn dyst i’r newidiadau yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. O dan y rheolau hyn y mae’r Cynulliad yn gweithredu. Gall y newidiadau i’r rheolau hyn effeithio ar y ffordd rydych yn ymgysylltu â’r Pedwerydd Cynulliad ac yn dylanwadu ar ei waith. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i chi wneud tri pheth:
- canfod mwy am bwerau newydd y Cynulliad, a beth mae hyn yn ei olygu i chi;
- canfod mwy am y newidiadau arfaethedig i’n prosesau o dan y Rheolau Sefydlog newydd;
- ystyried sut i chwarae mwy o ran ym musnes y Pedwerydd Cynulliad.
RSVP: 21.03.2011 Alice.Randone@cymru.gov.uk 029 2089 8084
Wedi’r Refferendwm – Rhagolygon ar gyfer y pedwerydd tymor
Ynghyd â’r Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Llywodraethiant Cymru bydd PAC yn cynnal cynhadledd ar 24 Mawrth yn y Future Inns ym Mae Caerdydd.
Wedi’r Refferendwm – Rhagolygon ar gyfer y pedwerydd tymor
24ain Mawrth 2011, 9.00am – 4.30pm, Gwesty Future Inns, Bae Caerdydd
Yn sgîl y refferendwm ar fwy o rymoedd ac wrth edrych ymlaen at etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ar 6 Mai 2011 mae’r gynhadledd hon yn edrych yn ôl ar sut yr ymladdwyd y refferendwm ac yn cynnig dadansoddiad o’r data pleidleisio. Bydd yn gofyn hefyd pa fath o Gynulliad Cenedlaethol y mae’r pleidiau gwleidyddol yn ei gynnig am y pedair blynedd nesaf. Pa fath o lywodraeth fydd yn ymddangos yn dilyn yr etholiad? Os na fydd yr un o’r pleidiau yn cael rheolaeth lwyr pa fath o ddewisiadau clymbleidio fydd ganddynt? Pa mor barod ydyn nhw ar gyfer y trafodaethau fydd yn dilyn a beth yw eu llinellau polisi coch?
Trefnir y digwyddiad hwn gan Public Affairs Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig a Chanolfan Llywodraethiant Cymru.
£40 (heb fod yn aelod) / £32 (aelodau IWA neu Public Affairs Cymru)
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ewch i wefan Sefydliad Materion Cymreig.
Digwyddiad Cymdeithasol Gŵyl Ddewi
Bydd PAC yn cynnal digwyddiad cymdeithasol anffurfiol i aelodau ar 1 Mawrth o 5.30 ymlaen yn y Mimosa, Bae Caerdydd.
Bydd diodydd a phethau bach i fwyta, a chyfle i aelodau gael cwrdd a sgwrsio â’i gilydd. Dyma gyfle arbennig i aelodau newydd gwrdd ag eraill a chael gwybod mwy am PAC - ond rydym yn awyddus i weld wynebau cyfarwydd hefyd! RSVP i Clare Bath os yn bosib, ond digwyddiad anffurfiol yw hwn, felly mae croeso i chi daro draw ar y noson.
Ymgysylltu â Senedd y DU – DIGWYDDIAD WEDI’I OHIRIO
Ymgysylltu â Senedd y DU - 11 Chewfror 2011 - DIGWYDDIAD WEDI’I OHIRIO: Yn anffodus mae’r Gwasanaeth Allgymorth Seneddol wedi rhoi gwybod i ni nad ydyw Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ar gael mwyach i ddod i Gaerdydd 11 Chwefror oherwydd ei fod yn gorfod bod yn Nhŷ’r Cyffredin ar y diwrnod hwnnw. O ganlyniad mae’r digwyddiad hwn wedi gorfod cael ei ganslo. Byddwn yn gweithio gyda’n Tîm Allgymorth i drefnu dyddiad newydd a fydd yn gyfleus i’r ddwy ochr, ac fe gysylltir â chi gyda gwybodaeth bellach pan ddaw i law.