C.P.D
Mae PAC wedi datblygu pecyn cymorth Datblygiad Proffesiynol Parhaus (C.P.D) i helpu aelodau i fanteisio i'r eithaf ar ein digwyddadau. Mae'n helpu aelodau i gadw cofnod o'r digwyddiadau y buont ynddynt a'r hyn y maent wedi'i ddysgu.
1. Tystysgrif
Gallwch lawrlwytho'r dystysgrif wag hon a mynd â hi i ddigwyddadau Public Affairs Cymru. Gofynnwch i'r aelod o Bwyllgor Gwaith PAC sy'n trefnu'r digwyddiad i lofnodi'r dystysgrif os hoffech gael rywbeth i ddangos eich bod yn y digwyddiad.
2. Cylch Myfyriol
Taflen gofnodi ac iddi ddwy dudalen yw'r cylch myfyriol. Mae'r dudalen gyfarwyddiadau yn dweud wrthych sut i'w llenwi ac mae'r dudalen wag yno i chi roi'ch sylwadau am rywbeth neilltuol yr ydych wedi'i ddysgu.
Lawrlwytho'r dudalen gyfarwyddiadau
3. Dyddiadur Myfyriol
Mae'r ddogfen hon yn cynnig pedwar pwynt syml i'n hybu i fyfyrio am achlysur dysgu.
Lawrlwytho'r dyddiadur myfyriol
4. Cofnod o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Taflen gofnodi syml â thri blwch i gofnodi Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
5. Log Myfyriol ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus
Dyma log syml ac iddo bedwar pwynt i'ch helpu i nodi beth a wnaethoch, beth a ddysgoch, sut y bydd yn newid eich ffordd o weithio a pha gamau dilynol a gymerwch.