Cyngor Public Affairs y DG
Efallai y gwelodd aelodau fod Cyngor Public Affairs y DG (y cyd gorff sy’n cynnwys CIPR, PRCA ac APPC) wedi lansio ei gofrestr hunan-reoleiddiol o “lobïwyr” ar Ddydd Gŵyl Ddewi – gellir ei weld yn: http://www.publicaffairscouncil.org.uk/index.php. Mae’n rhestru nifer o ymgynghoriaethau / ymgynghorwyr o Gymru, gan gynnwys rhai ymgynghoriaethau o’r tu allan i Gymru sydd â swyddfeydd yng Nghymru neu sy’n gweithio yma.
Dylid nodi ar hyn o bryd nad yw Swyddfa Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi cydnabod fod gan UKPAC rôl yn rheoleiddio’r diwydiant lobïo / diwydiant materion cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw UKPAC wedi ymgynghori â Public Affairs Cymru am eu gwaith yng Nghymru a bydd aelodau’n gwybod fod PAC wedi datblygu a mabwysiadu ei gôd ymddygiad ei hun.
Roedd cytundeb clymblaid y DG yn ymrwymo’r llywodraeth i “reoleiddio lobïo trwy gyflwyno cofrestr statudol”. Gall Public Affairs Cymru gadarnhau nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno unrhyw beth tebyg i gofrestr statudol o lobïwyr yng Nghymru.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch Dave Hoare.
Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus
Cafodd cynrychiolwyr o bwyllgor gwaith PAC gyfarfod anffurfiol ond adeiladol yn ddiweddar gyda’r Comisiynydd Safonau, Gerard Elias QC, a Chadeirydd y Pwyllgor ar Safonau, Jeff Cuthbert AC.
Yn y cyfarfod yn Nhŷ Hywel, croesawodd Mr Elias a Mr Cuthbert y ffaith fod PAC yn rhoi arweiniad ar safonau lobïo a chymerasant ddiddordeb byw yn y Côd Ymddygiad newydd i aelodau. Roedd Mr Cuthbert yn credu fod y Côd Ymddygiad yn “esbonio” a “hwyluso’r” berthynas rhwng Aelodau Cynulliad a lobïwyr.
Rhoddodd Cadeirydd PAC, Michelle Matheron, esboniad pellach ar rôl a chyfrifoldebau PAC i Mr Elias a Mr Cuthbert, ac yn eu tro rhoddasant hwythau ddadansoddiad cryno ond defnyddiol o’r datblygiadau o ran safonau yn y Cynulliad Cenedlaethol ar hyn o bryd ac i’r dyfodol. Pwysleisiodd Mr Elias ei fod yn ystyried cytundebau safonau yn “ddogfennau byw” ac y dylent fod yn rhan o waith bob dydd. Roedd hyn yn berthnasol i Aelodau Cynulliad a staff cynnal yn gymaint ag yr oedd i aelodau PAC. Roedd yn gobeithio y byddai maniffestos pob plaid ar gyfer mis Mai yn cynnwys ymrwymiadau i’r canllawiau yn y ‘Mesur Safonau’.
Roedd y Comisiynydd Safonau yn awyddus i weithio gyda PAC, ac aelodau PAC, ar faterion oedd yn gysylltiedig â’i waith gydag Aelodau Cynulliad. Roedd ef a Mr Cuthbert yn gefnogol i (ac yn barod i hwyluso) trefnu fod Côd Ymddygiad PAC yn cael ei ddarparu i holl Aelodau’r Cynulliad yn y Pedwerydd Cynulliad. Roedd cytundeb yn y cyfarfod y byddai hynny, a’n trafodaethau cychwynnol, yn helpu sicrhau perthynas eglur, agored a strwythuredig rhwng y diwydiant materion cyhoeddus ac aelodau etholedig, yn hwyluso ymgysylltiad democrataidd ac yn gwella canfyddiad y cyhoedd o’r broses wleidyddol yng Nghymru ac yn fwy cyffredinol.
Public Affairs News
Mae Public Affairs News wedi lansio’r arolwg mwyaf erioed i gael ei gynnal yn sector Materion Cyhoeddus y Deyrnas Unedig. Cyhoeddir y canlyniadau fel atodlen yn rhifyn mis Ebrill o PA News. Cliciwch yma i gymryd rhan: bit.ly/dIcGaX
Cwis: Diolch yn fawr!
Daeth aelodau PAC, newyddiadurwyr, ymchwilwyr pleidiau ac ASau at ei gilydd ar y 25ain Ionawr, a’r nod i bawb oedd cael eu coroni’n bencampwyr Cwis PAC 2011. Cymerodd naw tîm ran, gan gynnwys rhai’n cynrychioli grŵp ACau y Blaid Geidwadol ac adran wleidyddol Media Wales, gan ateb cwestiynau a baratowyd gan y Dr Dafydd Trystan a’r Dr Richard Wyn Jones. Dangosodd yr enillwyr, ‘The Brick Fireplaces’ (Dom Hannigan, Prifysgol Cymru, Casnewydd, Andy Misell, Alcohol Concern Cymru & Dewi Knight, Y Brifysgol Agored) wybodaeth (sy’n codi bach o bryder) am ACau a’u gyrfaoedd canu, partïon bunga bunga Silvio Berlusconi a maniffestos gwleidyddol. Maen nhw wedi enwebu Canolfan Hanes & Chelfyddydau Butetown i dderbyn y £93 a godwyd o’r noson. Llawer o ddiolch i enillwyr y llynedd, ‘Delyn’ am drefnu’r cwestiynau, ac i Harry Ramsdens am eu croeso.