Positif yn cymryd goron Cwis PAC
Cynnhaliwyd cwis blynyddol PAC yn Terra Nova ar y 18fed o Ionawr. Yn anffodus roedd ein lleoliad traddodiadol Harry Ramsden’s wedi cau am y diwrnod oherwydd problem gyda’u cyflenwad dwr. Diolch i Terra Nova am ymdopi ar byr-rhybudd ac i aelodau’r Pwyllgor Gwaith, yn enwedig Dominic Hannigan, am gwenud yn sicr roedd y cwis medru digwydd. Roedd yn ras tri ceffyl am rhan fwyaf o’r noson, ond ar ol brwydr hyd at y rownd terfynol rhwng Positif Politics, y Ceidwadwyr Cymreig a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (ac ar ol ail-cyfri!), Positif Politics yw pencampwyr Cwis PAC 2012. Dangosodd yr enillwyr wybodaeth ynglyn a manifestos, y ffilmiau Godfather a gwenidogion addysg i sicrhau’r wobr. Mae nhw wedi enwebu Gymdeithas Clefyd Motor Niwron i dderbyn y £82 a godwyd o’r noson. Diolch i enillwyr llynedd, ‘The Brick Fireplaces’ am drefnu’r cwestiynau.
Bar Cwtch Noson Nadoligaidd
I Bar Cwtch ar gyfer Noson Nadoligaidd PAC eleni, gyda’r cantores o Gaerdydd El Parisa yn darparu’r adloniant. Wrth i’r gwin poeth, pizza mins peis llufo roedd yn hawdd anghofio am y glaw a’r oerfel tu fas! Bu dros 30 gwestai ar y noson, gan cynnwys ACau ac staff gwleidyddol, ynghyd a traws-doriad o aelodaeth PAC. Diolch o galon i Clare Bath a Rhodri ab Owen am eu waith caled wrth trefnu’r noson. Nadolig Llawen i bawb.
Seminar Brecwast Cynta’ PAC
Cynhaliwyd y cynta’ yn ein gyfres o Seminarau Brecwast ‘Gweledigaeth 2020’ ym Mar a Gegin Mimosa ar y 30ain o Dachwedd. Daran Hill, MD Positif Politics, oedd ein siardarwr gwadd, ac aethon yn y DeLorean metafforaidd i wleidyddiaeth Cymru’r 2020. Wnaeth Daran edrych i’r orwel ar gyfer gwestai, gan darogan dyfodol y system etholiadol, Comisiwn Silk; y cyfryngau wleidyddol; a materion cyhoeddus yn gyffredinol. Cadwch lygad mas am Seminaru Brecwast arall yn 2012, ar Dydd Mercher olaf pob mis.
Public Affairs Cymru statement on political broadcasting in Wales
Welsh to follow
At their AGM tonight, members of Public Affairs Cymru expressed their concerns regarding today’s announcement on the future of BBC Wales’s political programming.
The membership of PAC believes that political programming in Wales, including that of the BBC, is essential to developing public engagement and a critical understanding of the legislative and political process. Quality programmes on politics, current affairs and public life in Wales are vital to widening access to decision-making and the transparency of a developing vibrant modern democracy.
A new executive committee for Public Affairs Cymru, the membership organisation for public affairs professionals in Wales, was elected at the AGM tonight. The body has close to 200 members and hosts numerous events throughout the year. The executive have committed to engaging further with BBC Wales and stakeholders on the impact of today's announcement.
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Materion Cyhoeddus Cymru yn ei gynnal am 5:30 pm ar ddydd Iau 6ed Hydref 2011 yn y swyddogaeth ystafell i fyny'r grisiau yn y Tafarn Llanfa ym Mae Caerdydd (http://www.thewharfcardiff.com/contact-us)
Er mwyn gwneud cworwm, mae’n rhaid bod o leiaf 25% o aelodaeth PAC yn bresennol. Byddwn yn ddiolchgar petai aelodau PAC i gyd yn medru gwneud pob ymdrech i fynychu. Byddwn ni’n ddiolchgar iawn petaech chi’n medru gadael ni wybod cyn gynted ag sy’n bosibl os ydych yn bwriadu dod neu beidio drwy gysylltu â liamurphy@publicaffairscymru.org
Dyma agenda ddrafft ar gyfer y noson. Caiff y papurau i gyd eu hanfon atoch dros e-bost yr wythnos cyn y cyfarfod:
1. Cofnodion y Cyfarfod Blynyddol diwethaf
2. Adroddiad Blynyddol y Grwp Gweithredol
3. Datganiad Ariannol
4. Etholiadau ar gyfer y Pwyllgor Gweithredol
Bwffe a Lluniaeth - caiff bwffe, gwin a diodydd ysgafn eu gweini yn ystod y broses etholiadol.
5. Canlyniadau’r arolwg aelodaeth a phleidlais ar y ffi aelodaeth
6. Diwygiadau i’r cyfansoddiad Dylai unrhyw aelod PAC sydd am gynnig diwygiad i’r cyfansoddiad wneud hyn yn ysgrifenedig i mi drwy e-bostio Chair@publicaffairscymru.org, o leiaf 7 diwrnod cyn yr AGM.
7. Unrhyw gynigion eraill Dylai unrhyw aelod PAC sydd am wneud cynnig gwneud hyn yn ysgrifenedig drwy e-bostio Chair@publicaffairscymru.org, o leiaf 7 diwrnod cyn yr AGM.
8. Canlyniadau’r Etholiad
9. Sylwadau i gloi
Bydd y Cadeirydd newydd yn cymryd drosodd ac yn rhannu sylwadau i gloi’r cyfarfod.
Derbyniad blynyddol yn Y Senedd
Agorwyd derbyniad blynyddol PAC gan Rebecca Evans AC, ac fe’i cynhaliwyd eleni yn y Senedd. Croesawodd Rebecca, cyn aelod o PAC, Weinidogion, Aelodau Cynulliad, staff y Cynulliad yn ogystal ag aelodau PAC i’r derbyniad diodydd, a chafodd pawb gyfle i fyfyrio ar flwyddyn brysur o ymgyrchu, lobïo ac etholiada.
Cafodd yr 50+ o bobl a ddaeth at ei gilydd yn yr Oriel yn Y Senedd gyfle da i gymdeithasu â thrawstoriad da o aelodaeth PAC, cwrdd â hen ffrindiau, cyfarfod aelodau newydd a thrafod cynlluniau gwyliau (neu ai hoe ddylai hwnna fod?!) gydag Aelodau Cynulliad. Roedd cynnal y digwyddiad yn Y Senedd yn syth wedi sesiwn lawn olaf y tymor yn ddiweddglo addas i flwyddyn o waith caled ym myd gwleidyddiaeth a materion cyhoeddus yng Nghymru.
Aelodau PAC yn dweud eu dweud am y BBC
Bu grŵp o aelodau PAC mewn sesiwn casglu-tystiolaeth gyda Chyngor Cynulleidfa’r BBC yng Nghymru yn y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf yn ddiweddar.
Roedd y Cyngor Cynulleidfa yn awyddus i gael barn a safbwyntiau aelodau PAC ar wasanaeth y BBC yn ystod yr etholiad a’r refferendwm diweddar, a’r sylw ehangach a rodda yng Nghymru ac ar y rhwydwaith i ddatblygiadau gwleidyddol yng Nghymru. Cododd aelodau PAC faterion yn ymwneud â’r derminoleg a ddefnyddir mewn adroddiadau, pryderon am natur ‘Lloegr ganolog’ y ffordd y cyflwynir storïau iechyd ac addysg a pheth o’r sylw diwrnod-etholiad ar lefel Cymru a’r rhwydwaith. Roedd aelodau’n awyddus hefyd i longyfarch y BBC ar y gwelliannau yn y ffordd y caiff perthnasedd datblygiadau gwleidyddol i’r gwahanol genhedloedd ei chyflwyno a gwasanaeth y refferendwm a chanlyniadau diwrnod etholiad yn y Gymraeg.
Diolchodd aelodau’r Cyngor Cynulleidfa i PAC am ei gyfraniad, ac mae’n gobeithio datblygu cysylltiadau pellach gyda PAC ar ddigwyddiadau a chyfraniadau tebyg.
Cinio Mwyaf a Gorau eto
Gyda dros 120 o westeion yn bresennol, cynhaliwyd cinio blynyddol PAC yng Ngwesty’r Park Plaza, Heol y Brodyr Llwydion eleni.
Nick Bourne oedd y siaradwr gwadd, ac edrychodd yn ôl ar ei gyfnod yn y Cynulliad yn ogystal ag edrych ymlaen at ddyfodol Ceidwadaeth Gymreig a’i bersbectif ar y materion sy’n wynebu Llywodraethau Cymru a Phrydain. Mae llawer oedd yn bresennol yn awr yn edrych ymlaen yn eiddgar at gyhoeddi dyddiaduron Nick!
Gyda chymorth gan Grayling a Positif Politics, mwynhaodd y gwesteion dderbyniad diodydd, pryd tri chwrs a pharti ar ôl cinio yng Nghlwb arbennig y KuKu Club yn y Park Plaza. Wrth i’r cinio blynyddol fynd yn fwy ac yn well bob blwyddyn, bu Cadeirydd PAC Michelle Matheron yn myfyrio ar gyfraniad aelodau i un o’r blynyddoedd prysuraf eto ym mywyd cyhoeddus Cymru. Mae trefnu digwyddiad mor fawr yn golygu llawer o waith gan Bwyllgor Gwaith PAC, a thrwy ymdrechion Lia Murphy, Bobbie Davies, Clare Bath a Sali Davies yn arbennig, cafwyd noson i’w chofio.
Dim osgoi cwestiynau yn hystings PAC
Llwyddodd gwleidyddion o’r pedair prif blaid i osgoi cael eu dal yn nhafarn y Cricketers ar nos Fawrth wrth iddyn nhw wynebu cwestiynau yn hystings etholiadol PAC.
Ar noson o dywydd canfasio perffaith, cymerodd yr ymgeiswyr hoe o’u rhaglenni prysur i ateb cwestiynau ar nifer o bynciau amrywiol oddi wrth y gynulleidfa wybodus a fu’n trin a thrafod manylion dirgel pob maniffesto yn y lleoliad ar Heol yr Eglwys Gadeiriol.
Cymerodd Mark Drakeford o Lafur Cymru, Craig Williams o Geidwadwyr Cymru, Sera Evans-Fear o Blaid Cymru a Nigel Howells o Ryddfrydwyr Democrataidd Cymru ran yn y sesiwn gwestiynau 60 munud o hyd, gan drafod materion fel polisi iechyd meddwl; trafnidiaeth gyhoeddus; cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd; addysg uwch a diwygiadau ariannu.
Diolch i bawb a ddaeth i’r digwyddiad ac a ofynnodd gwestiynau, ac i aelodau pwyllgor gwaith PAC a drefnodd y digwyddiad.
Mr Llefarydd yn ymweld â Chaerdydd
Ymweliad Seneddol oedd “trefn, trefn” pethau yn Y Brifysgol Agored yng Nghymru yr wythnos ddiwethaf wrth i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, John Bercow AS, ymweld â Chaerdydd a thraddodi araith ar ymgysylltiad democrataidd mewn digwyddiad a drefnwyd gan PAC a phrosiect Lleisiau dros Newid Cymru.
Roedd Mr Llefarydd yn ymweld â Chaerdydd yn rhan o raglen o ddigwyddiadau ledled gwledydd Prydain i drafod gwaith Senedd San Steffan a sut y gellir ei gwneud yn fwy hygyrch, ac i amlygu’r cyfleoedd sydd eisoes ar gael i bobl gymryd rhan.
Wrth ateb cwestiynau oddi wrth gynulleidfa o tua 60 o’r sector gwirfoddol a’r cymunedau materion cyhoeddus a busnes, bu’r Llefarydd yn trafod pynciau yn cynnwys: gwybodaeth gweision sifil San Steffan am y setliadau datganoli; yr iaith a ddefnyddir yn Nhŷ’r Cyffredin; proses deisebau’r Cynulliad a’r potensial iddi gael ei defnyddio yn San Steffan; a’r cynlluniau i leihau nifer yr Aelodau Seneddol.
Rhoddodd Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru y sylwadau agoriadol, ac wrth groesawu’r Llefarydd a’i dîm i Gymru ac i’r Brifysgol Agored, dywedodd fod cenhadaeth y brifysgol i fod yn agored i bobl, lleoedd, dulliau a syniadau yn cael ei hadleisio yn awydd Mr Bercow i wneud Senedd San Steffan yn fwy hygyrch, tryloyw ac agored i bobl ar draws pedair cenedl y Deyrnas Unedig.
Cadeiriwyd y digwyddiad gan Gadeirydd PAC, Michelle Matheron, a gadwodd Mr Llefarydd a’r gynulleidfa i’w hamser, gan ennill canmoliaeth gan y Llefarydd ei hun ar ddiwedd y digwyddiad!
