Public Affairs Cymru

Swydd ar gael

Posted on January 17, 2012

Rheolwr y Rhaglen
Swydd amser llawn, cyfnod penodol tan Rhagfyr 2014
£34,138 y flwyddyn (cynnydd blynyddol tan ddiwedd y contract).
Amser Newid Cymru yw ymgyrch uchaf ei phroffil a mwyaf uchelgeisiol Cymru,
sy’n ceisio rhoi terfyn ar y stigma a’r gwahaniaethu a wynebir gan bobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl
Gan weithio’n agos â Time to Change yn Lloegr, mae partneriaeth brofiadol a
dylanwadol wedi cael ei ffurfio rhwng tair elusen iechyd meddwl flaenllaw yng
Nghymru – Gofal, Hafal a Mind Cymru – er mwyn rhoi’r ymgyrch ar waith. Fel
Rheolwr y Rhaglen, byddwch yn arwain yr ymgyrch yng Nghymru ac yn chwarae
rhan bwysig iawn yn ei llwyddiant.
Gyda sgiliau rhagorol o ran arweinyddiaeth, rheoli prosiectau, cyfathrebu a
dylanwadu, byddwch yn arwain Tîm Amser Newid Cymru i ddatblygu, i reoli ac i
roi’r ymgyrch ar waith yn effeithiol drwy gyfrwng cyfres o brosiectau lleol a
chenedlaethol. Wrth gefn hyn, byddwch hefyd yn cynnal ymgyrch genedlaethol
uchel ei phroffil i godi ymwybyddiaeth.
Byddwch yn darparu profiad lefel uwch cryf ac yn gallu ffynnu mewn
amgylcheddau cymhleth ac anodd. Byddwch yn cael eich cymell gan
ganlyniadau, a byddwch yn dangos arweinyddiaeth yn seiliedig ar berfformiad
wrth geisio sicrhau amcanion a chanlyniadau’r ymgyrch.
Mae’n bwysig eich bod yn dangos dealltwriaeth drylwyr o effeithiau
gwahaniaethu, ac ymrwymiad personol i sicrhau newid cymdeithasol, yn benodol
os yw’n berthnasol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Mae hwn yn gyfle unigryw i’r unigolyn priodol. Os hoffech chi gyfrannu at roi
terfyn ar wahaniaethu ar sail iechyd meddwl yng Nghymru, byddem wrth ein
bodd yn clywed gennych.
Bydd Rheolwr y Rhaglen yn gweithio yng Nghaerdydd gyda Mind Cymru.
Dyddiad cau: Dydd Iau 26ain Ionawr 2012
Cyfweliadau: Dydd Mawrth 7fed Chwefror 2012
I ymgeisio, ewch
mind.org.uk/jobs

Swyddog Ymgyrchoedd a Pholisi Cymru – rhwng £24,500 a £26, 500 – llawn-amser parhaol

Posted on December 13, 2011

Sefydliad:

Ymgyrch hawliau anabledd

Y Rôl:

  • I gynrychioli a hyrwyddo’r ymgyrch ar hyd a lled Cymru ac i ymateb i bolisi sy’n berthnasol i’r ymgyrch.
  • I godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch yng Nghynulliad Cymru.
  • I lobio Gweinidogion ac Aelodau Cynulliad ac i friffio gweision sifil ar faterion o bwys i’r ymgyrch.

 Yr Ymgeisydd:

  • Profiad gyda lobio penderfynwyr er mwyn cyflawni amcanion ymgyrch.
  • Profiad gydag ymgyrchu er mwyn newid polisi cyhoeddus.
  • Yn ddelfrydol, profiad ymgyrchu neu lobio yng Nghymru.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â http://www.therightethos.co.uk/

 

Seminar Brecwast Rhad ac am Ddim – Mynd yn Wyrdd ym Myd Busnes

Posted on October 26, 2011

Seminar Rhad ac am Ddim – Mynd yn Wyrdd ym Myd Busnes

Clarkslegal LLP a Grayling Cymru

Dydd Mercher 30ain Tachwedd 2011

9.30am-1.00pm

Gwesty Future Inn, Heol Hemingway, Caerdydd, CF10 4AU

Hoffai Clarkslegal a Grayling eich gwahodd i ymuno â ni ar gyfer seminar ar fusnes gwyrdd ar ddydd Mercher 30ain Tachwedd o 9.30am yng Ngwesty Future Inn, Bae Caerdydd.

Mae hwn yn gyfle i ddod i wrando ar nifer o siaradwyr arbenigol yn trafod busnes gwyrdd, gan gynnwys materion polisi gwyrdd ym maes caffael a’r rôl y mae busnes gwyrdd yn ei chwarae mewn cwmnïau bach a mawr, gyda sesiwn Cwestiwn ac Ateb i ddilyn. Bydd y siaradwyr yn cynnwys:

  • Peter Davies – Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru
  • Yr Ymddiriedolaeth Carbon
  • Ffederasiwn Busnesau Bach
  • UES Energy
  • Clarkslegal, yn siarad ar gaffael gwyrdd

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio a thrafod busnes gwyrdd gyda chyd-westeion o’r sector.

Mae hwn yn ddigwyddiad seminar rhad ac am ddim, ac fe ddarperir cinio a lluniaeth.

Byddem yn ddiolchgar os gallech gadarnhau y byddwch yn bresennol trwy gysylltu â Matt Francis ar 029 2046 2507 neu trwy e-bostio matthew.francis@grayling.com

www.grayling.co.uk/wales