Gair Amdanom Ni
Mae aelodaeth PAC yn agored i unigolion sy'n gweithio ym meysydd materion cyhoeddus a chysylltiadau â'r llywodraeth yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae gennym bron 200 o aelodau sy'n dod o'r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ac o sefydliadau bach a mawr sy'n arbenigo mewn llu o wahanol feysydd. Rydym yn cynnal digwyddiadau amrywiol trwy'r flwyddyn a gall yr aelodau elwa ar nifer o wahanol fuddion.
Caiff PAC ei reoli o ddydd i ddydd gan y Pwyllgor Gwaith sy'n cael ei ethol bob blwyddyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Aelodau cyfredol y pwyllgor yw:
Cadeirydd
Michelle Matheron (chair@publicaffairscymru.org)
Ysgrifennydd y Pwyllgor
Mary van den Heuvel (maryvandenheuvel@publicaffairscymru.org)
Trysorydd
Sali Davis (salidavis@publicaffairscymru.org)
Swyddogion Cyfathrebu
Bobbie Davies (bobbiedavies@publicaffairscymru.org)
Dewi Knight (dewiknight@publicaffairscymru.org)
Swyddog Aelodaeth
Bobbie Davies (bobbiedavies@publicaffairscymru.org)
Swyddogion Digwyddiadau
Lia Murphy (liamurphy@publicaffairscymru.org)
Clare Bath (clarebath@publicaffairscymru.org)
Swyddog Polisi
Dave Hoare (davehoare@publicaffairscymru.org)
Cyfansoddiad, Polisïau ac Adroddiadau Blynyddol
Mae cyfansoddiad PAC yn amlinellu nodau a phwrpas y sefydliad ac yn nodi sut y dylai gael ei redeg. Fe’i diwygiwyd ddiwethaf yng Nghyfarfod Cyffredinol Eithriadol 2010.
Mae Pwyllgor Gwaith PAC yn paratoi adroddiad blynyddol a gyflwynir yn y CCB. Cewch weld yr adroddiadau blynyddol blaenorol yma:
Cytunodd aelodau PAC ar Polisi Iaith Gymraeg yng Nghyfarfod Cyffredinol Eithriadol 2010. Datblygwyd y Cynllun Iaith gan y Pwyllgor Gwaith, mewn cydweithrediad âg aelodau PAC, gan adlewyrchu cefnogaeth PAC tuag at ddwyieithrwydd.
Yn ogystal, mae PAC yn gweithio ar God Ymddygiad ar gyfer ei aelodau. Bydd rhagor o fanylion i'w gweld ar y wefan maes o law ond os bydd gennych ryw gwestiwn am y gwaith, mae croeso i chi gysylltu ag Michelle Matheron.